Stiwdio Spin® Newydd Sbon yn Agor ar 11 Hydref 2010

 

COFRESTRU O 6ed HYDREF  -  DOSBARTHIADAU YN DECHRAU AR 11 HYDREF 2010

Mae'r Ganolfan Chwaraeon yn datgan yn falch bod ei Stiwdio Spin® Newydd yn agor ar 11 Hydref 2010.
Mae Hyfforddwyr Cymwysedig Spin® yn arwain y dosbarthiadu Spinio®, gan gyfuno hyfforddiant beicio sylfaenol, anogaeth a ffitrwydd. Mae’r beiciau’n caniatáu i chi reoli eich lefel gwrthiant eich hun, tra’ch bod yn cael hwb o gymryd rhan mewn sesiwn grŵp. Mae rhaglen arloesol Spin® yn creu profiad unigryw sydd wedi trawsnewid natur ymarfer grŵp.

Amserlen

Spinio® yn y Bore

  • Dydd Llun: 9.15am - 10.00am
  • Dydd Mercher: 9.15am - 10.00am

Dechrau Spinio®

  • Dydd Mercher: 12.10am - 12.55pm
  • Dydd Iau: 6.15pm - 7.00pm

Spinio® i Ddechreuwyr

  • Dydd Mawrth 6.15pm - 7.00pm
  • Dydd Mercher 2.00 - 2.45pm
  • Dydd Gwener 12.10 - 12.55pm

Troelli'n Gynnar yn y Bore

  • Dydd Mawrth: 7.45am - 8.30am
  • Dydd Gwener: 7.45am - 8.30am

Beicio Bryniau a Mwy

  • Dydd Llun: 5.15pm - 6.00pm
  • Dydd Llun: 6.15pm - 7.00pm
  • Dydd Mawrth: 12.10pm - 12.55pm
  • Dydd Iau: 12.30pm - 1.15pm
  • Dydd Gwener: 6.00pm - 6.45pm
  • Dydd Sadwrn: 9.15am - 10.00am

Gwybodaeth Arall

Sut allai gychwyn arni?

Gallech ddod i wylio dosbarth a siarad ag un o’r hyfforddwyr. Yna, gallwch gasglu amserlen o dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon. Archebwch le mewn dosbarth a dewch â ffrind gyda chi i’ch cefnogi.

Beth yw hyd y dosbarthiadau?

Mae’r dosbarthiadau’n para 45 munud, sy’n cynnwys twymo’r corff, oeri’r corff ac ymestyn.

Beth ddylwn ei wisgo?

Gwisgwch unrhyw beth sy’n gyfforddus ac sy’n caniatáu i chi symud, fel siorts beicio, teits rhedeg, crys t a phâr o esgidiau chwaraeon cadarn.

Beth arall fydd ei angen arna i?

  • Potel ddŵr – Mae lle ar y beiciau i ddal potel a bydd angen i chi yfed dŵr yn ystod y dosbarth.
  • Tywel – Mae’r dosbarth hwn yn gwneud i chi chwysu!

 

Newydd-ddyfodiaid

Dewch 5 munud cyn i’r dosbarth ddechrau i’ch cyflwyno’ch hun i’r hyfforddwr. Bydd yn eich helpu i osod eich beic yn gywir. Neilltuwch amser i addasu’r beic i ffitio i’ch corff. Mae hefyd yn bwysig rhoi gwybod i’r hyfforddwr am unrhyw broblemau iechyd.

Prisiau

  • Aelodau: £2.90
  • Eraill: £3.40

Gallwch neilltuo beic hyd at wythnos ymlaen llaw.


I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch: 01970 621 521 neu 621 500