Aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon ar gyfer Aelodau'r Llyfrgell Genedlaethol
Mae ein cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar gael i bobl o bob oed, lefel ffitrwydd a gallu eu mwynhau. Mae’r Ganolfan Chwaraeon wedi’i lleoli 5 munud ar droed o’r Llyfrgell Genedlaethol a dylai fod modd i chi ddod yma ar ddechrau neu ddiwedd y dydd, neu yn ystod eich awr ginio. Rydym ar agor yn gynnar, felly gallwch ymarfer a chael cawod cyn mynd i’r gwaith, ac rydym ar agor tan 9pm os yw’n well gennych ymarfer ar ddiwedd y dydd. Mae podiau beicio sefydlog a trac rhedeg/loncian 400m ar gael yma, yn ogystal â sawnariwm er mwyn ymlacio ar ddiwedd diwrnod prysur...
Beth yw manteision bod yn aelod?
Fel aelod o’r Ganolfan Chwaraeon, fe gewch yr holl fuddion gwych hyn.
Tâl aelodaeth 2010/11
1 Awst 2010 – 31 Gorffennaf 2011
Aelodaeth sylfaeno
Cewch ddefnyddio’r mannau chwaraeon dan do ac awyr agored am ddim a thalu prisiau is ar gyfer y gampfa, y pwll, y dosbarthiadau a Box Rox. Mae’r ffi hwn yn cynnwys aelodaeth o Glwb Cymdeithasol Brynamlwg.
| Categori | Taliad Misol | Tâl Blynyddol |
|---|---|---|
| Unigolyn | £6.33 |
£76 |
| Teulu |
£9.42 |
£113 |
| Rhywun sydd wedi ymddeol |
£4.79 |
£57.50 |
| Plentyn |
£1.21 |
£14.50 |
Cardiau Aur
Mae Cerdyn Aur yn fodd o dalu ymlaen llaw am ymarfer – gallwch wneud hyn yn fisol drwy’ch cyflog ac osgoi’r drafferth o ddod ag arian parod gyda chi i’r Ganolfan. Mae’r taliad misol yn caniatáu i chi ymweld â’r gampfa, y pwll neu’r dosbarthiadau gynifer o weithiau ag y mynnoch. Yn fras, mae’n costio’r un faint â dod i’r Ganolfan a thalu wrth y til am 1.5 ymarfer – felly mae’n fuddiol iawn i’n cwsmeriaid ffyddlon! Ticiwch y blwch ar eich ffurflen gais neu anfonwch e-bost atom ac fe wnawn ni drefnu i chi gael mynediad ar unwaith.
| Cerdyn Aur | Taliad Misol |
|---|---|
| Cerdyn Aur y Gampfa |
£14.88 |
| Cerdyn Aur y Pwll |
£11.25 |
| Cerdyn Aur y Sba |
£12.25 |
| Cerdyn Aur Dosbarthiadau |
£14.00 |
| Cerdyn Aur Spin |
£14.00 |
| Cerdyn Platinwm (pob rhan) |
£41.17 |
Mae manylion eich aelodaeth o’r Ganolfan Chwaraeon ar eich cerdyn adnabod, felly cofiwch ddod â’ch cerdyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld â’r Ganolfan Chwaraeon. Bydd staff y Dderbynfa’n gwirio manylion eich cerdyn bob tro y byddwch yn dod yma.
Sut alla i ymuno?
Mae cynllun unigryw ar gael ar gyfer Aelodau’r Llyfrgell Genedlaethol. Gall staff ymuno â’r Ganolfan Chwaraeon a Brynamlwg drwy wneud un taliad o’u cyflog. Dylech lawrlwytho’r ffurflen aelodaeth yma Cais LlGC 2010 neu gysylltu ag Annwen Isaacs.
Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’n cyfleusterau rhagorol – mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.