Aelodaeth Staff
Mae ein cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar gael i bobl o bob oed, lefel ffitrwydd a gallu eu mwynhau. Heb y drafferth o barcio, gall y rhan fwyaf o’n staff gerdded i’r Ganolfan Chwaraeon a chymryd rhan mewn sesiynau ar ddechrau neu ddiwedd y dydd, neu yn ystod eu hawr ginio. Rydym ar agor yn gynnar felly gallwch ymarfer a chael cawod cyn mynd i’r gwaith, ac rydym ar agor tan 9pm, os yw’n well gennych ymarfer ar ddiwedd y dydd. Mae podiau beicio sefydlog a thrac rhedeg/loncian 400m ar gael yma, yn ogystal â sawnariwm er mwyn ymlacio ar ôl diwrnod prysur...
Beth yw manteision bod yn aelod?
Fel aelod o'r Ganolfan Chwaraeon, fe gewch yr holl fuddion hyn.
Tâl Aelodaeth 2010/11
1 Awst 2010 - 31 Gorffennaf 2011
Aelodaeth Sylfaenol
Cewch ddefnyddio’r mannau chwaraeon dan do ac awyr agored am ddim a thalu prisiau is ar gyfer y gampfa, y pwll, y dosbarthiadau a Box Rox – sylwch, os ydych hefyd yn aelod o Glwb Cymdeithasol Brynamlwg, mae gennych hawl i gael gostyngiad pellach o 50% ar ffioedd Aelodaeth y Ganolfan Chwaraeon. Dewch â phrawf o’ch aelodaeth gyda chi i hawlio’r gostyngiad.
| Categori | Taliad Misol | Tâl blynyddol |
|---|---|---|
| Unigol |
£6.17 | £74 |
| Teulu |
£12.33 | £148 |
| Rhywun sydd wedi ymddeol |
£3.08 | £37 |
| Plentyn |
£2.42 | £29 |
Cardiau Aur
Mae Cerdyn Aur yn fodd o dalu ymlaen llaw am ymarfer – gallwch wneud hyn yn fisol o’ch cyflog ac osgoi’r drafferth o ddod ag arian parod gyda chi i’r Ganolfan. Mae’r taliad misol yn caniatáu i chi ymweld â’r gampfa, y pwll neu’r dosbarthiadau gynifer o weithiau ag y mynnoch. Yn fras, mae’n costio’r un faint â dod i’r Ganolfan a thalu wrth y til am 1.5 ymarfer – felly mae’n fuddiol iawn i’n cwsmeriaid ffyddlon! Ticiwch y blwch ar eich ffurflen gais neu anfonwch e-bost atom ac fe wnawn ni drefnu i chi gael mynediad ar unwaith.
| Cerdyn Aur | Taliad Misol |
|---|---|
| Cerdyn Aur y Gampfa |
£14.88 |
| Cerdyn Aur y Pwll |
£11.25 |
| Cerdyn Aur y Sba |
£12.25 |
| Cerdyn Aur Dosbarthiadau |
£14.00 |
| Cerdyn Aur Spin |
£14.00 |
| Cerdyn Platinwm (pob rhan) |
£41.17 |
Mae manylion eich aelodaeth o’r Ganolfan Chwaraeon ar gael ar eich cerdyn llyfrgell PA. Cofiwch ddod â’ch cerdyn gyda chi pan fyddwch yn dod i’r Ganolfan Chwaraeon. Bydd staff y Dderbynfa’n gwirio manylion eich cerdyn bob tro y byddwch yn dod yma.
Ffurflen Gais Staff PA 2010
Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’r cyfleusterau gwych – cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.