Now Showing

Ar Agor: Dydd Llun-Dydd Gwener, 10yb-5yh | Open: Monday - Friday, 10am-5pm  Am ddim | Free 

Adleisiau Ymhlith y Creigiau:

Robert A. Newell a gweithiau o gasgliad Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth.

Echoes Among the Rocks:

Robert A. Newell and works from the School of Art Collection, Aberystwyth University.

Medi 22 September – Tachwedd 7 November 2025

 

Darlunio’r Dirwedd, Symposiwm

Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG

Dydd Mercher 29 Hydref, 2-5yp

Ar y cyd ag arddangosfa Robert Newell, Adleisiau Ymhlith y Creigiau, mae'r Ysgol Gelf yn falch iawn o'ch gwahodd i ymuno â ni yn y symposiwm, Darlunio’r Dirwedd, lle bydd artistiaid ac awduron yn trafod dulliau amrywiol o ymateb i le trwy gyfrwng delwedd a thestun. Bydd y panel yn cynnwys: Dr Robert Newell, yr Athro Sharon Morris, Andrew Green, yr Athro Catrin Webster. Bydd y Symposiwm yn dechrau am 2yp, yn ystafell 206, yr Ysgol Gelf, Aberystwyth, gyda chyflwyniadau byr gan bob cyfrannwr, ac yna seibiant am 30 munud a chyfle i ymweld â'r arddangosfa. Bydd trafodaeth banel rhwng 3.30 a 4.30 ac yna amser i holi cwestiynau a chyfle eto i weld yr arddangosfa. Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 5 yp.

Dr Robert Newell, artist ac aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig a 'Chydymaith’ Urdd Sant Siôr, sef elusen addysgol a sefydlwyd gan John Ruskin. Mae hefyd yn gyn-uwch ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae ei waith yn ymateb yn dreiddgar a myfyriol i le trwy ddarlunio yn y fan a'r lle, a datblygu hyn yn baentiadau ar raddfa fawr yn y stiwdio.

Andrew Green, cyn Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd bellach yn awdur, blogiwr a cherddwr. Mae ei lyfrau yn cynnwys Wales in 100 objects a Voices on the path: a history of walking in Wales.

Yr Athro Catrin Webster, artist a Phennaeth Adran, yr Ysgol Gelf Aberystwyth. Mae ei gwaith yn ymdrin â lle fel profiad deinamig, er enghraifft yn creu gwaith yn seiliedig ar deithiau, cerdded, beicio a gyrru lle mae'n gwneud astudiaethau a phaentiadau en plein air. Yna, mae'r ymdeimlad hwn o fod mewn lle yn cael ei ailystyried trwy baentiadau yn y stiwdio.

Yr Athro Sharon Morris, artist ac Athro Celfyddyd Gain, yn Ysgol Slade, UCL. Mae ei hymarfer celf yn cynnwys lluniadu, ffotograffiaeth, ffilm, fideo a gosodiadau clyweled, ynghyd â thestunau ysgrifenedig neu lafar sy'n troi o amgylch themâu yn ymwneud â lle, goddrychedd a hunaniaeth.

 

Drawn into Landscape, Symposium

School of Art, Aberystwyth University, Buarth Mawr, SY23 ING

Wednesday 29th October, 2-5 pm

In conjunction with Robert Newell's exhibition, Echoes Among the Rocks, The School of Art is delighted to invite you to join us for the symposium; Drawn into Landscape, in which artists and writers discuss a range of approaches to responding to place through image and text. The panel will include; Dr Robert Newell, Prof. Sharon Morris, Andrew Green, Prof. Catrin Webster. The Symposium will start at 2pm, in the room 206 at the School of Art, Aberystwyth, with short presentations from each contributor, followed by a 30 min break and opportunity to visit the exhibition, and then a panel discussion 3.30-4.30 followed by questions and further opportunity to view the exhibition. The event will end at 5 pm.

Dr Robert Newell, is an artist and member of the Royal Cambrian Academy and a ‘Companion' of the Guild of St George, an educational charity founded by John Ruskin, also a former senior lecturer at Swansea College of Art. He makes searching and contemplative responses to place through drawing in situ, this is then developed into large scale paintings in the studio.

Andrew Green, former Librarian of the National Library of Wales, now a writer, blogger and walker; books include Wales in 100 objects and Voices on the path: a history of walking in Wales.

Prof. Catrin Webster is an artist, Head of Department, School of Art Aberystwyth. Her work explores place as a dynamic experience, for example creating work based on journeys, walking, cycling and driving where she makes studies and paintings en plein air. This sense of being in a place, is then re-considered through studio paintings.

Prof. Sharon Morris is an artist and Professor of Fine Art, at the Slade School, UCL, her art practice includes drawing, photography, film, video and audio-visual installation, accompanied by written or spoken texts revolving around themes of place, subjectivity and identity.