Now Showing
Ar Agor: Dydd Llun-Dydd Gwener, 10yb-5yh | Open: Monday - Friday, 10am-5pm Am ddim | Free
Goth mewn Tirlun | Goth in a Landscape
Arddangosfa grŵp o baentiadau tirlun cyfoes
A group exhibition of contemporary landscape painting
Medi 23 September – Tachwed- 22 November 2024
Mae 'Goth mewn tirlun’ yn edrych ar hynodrwydd bywyd dynol yn y dirwedd bob-dydd.
Mae bywyd y bod dynol yn gallu bod yn ddigyffro ac yn chwerthinllyd, yn bruddglwyfus ac yn llawn trawma. Mae llawer ohonom wedi bod fel Gothiaid mewn tirlun ar ryw adeg yn ein bywydau, yn teimlo braidd yn dywyll ac allan ohoni. Mae’r cwestiynau ‘beth ydym ni?’ a ‘phwy ydym ni’ yn cael eu chwarae allan yn ddi-baid ar lwyfan y dirwedd anferth a thrawsnewidiol rydym yn byw ynddi.
Mae'r peintwyr sydd wedi'u cynnwys yn yr arddangosfa hon wedi cael eu gwahodd i ystyried hunaniaeth o fewn ymdeimlad o le. Maent yn adnabyddus yn rhyngwladol ac yn gweithio o Gymru, Lloegr, Ffrainc, Canada ac Unol Daleithiau America. Drwy baentio y mae'r artistiaid i gyd yn dechrau mynegi eu syniadau. Mae rhai yn mynd y tu hwnt i baentio traddodiadol, gan ymgorffori perfformiadau, gosodwaith, a cherfluniau. Mae eraill yn aros ar gynfas ond yn defnyddio lliw a phaent mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Rydym yn byw mewn byd sydd weithiau'n cofleidio ein hynodrwydd unigryw, ac mae paentio yn un ffurf ar y mynegiant hwnnw.
‘Goth in a landscape’ explores the oddness of being human in the everyday landscape.
Being human can be mundane and ridiculous, melancholic and traumatic. Many of us have been Goths in a landscape at some point in our lives, feeling a little dark and out of place. What and who we are is forever played out on the stage of the vast and transforming landscape in which we live.
The painters included in this exhibition have been invited to explore self-identity within a sense of place. They are well known internationally and work from Wales, England, France, Canada and the United States of America. All the artists start with painting to express their ideas. Some go beyond traditional painting, incorporating performance, installation, and sculpture. Others stay on canvas but use colour and paint in new and creative ways.
We live in a world which sometimes embraces our unique oddness, and painting is a form of that expression.
Charlotte Bisland
Artistiaid dan sylw | Featured artists:
Ben Sadler
Jo Berry
Kate Boucher
Alice Brasser
Charlotte Brisland
Orlanda Broom
Simon Carter
Jo Chate
Graham Crowley
Nancy Diamond
Milli Evans
Nancy Friedland
Anne Griffiths
Lisa Ivory
Dominic Kennedy
Catrin Llwyd
Rob Lyon
Enzo Marra
Aiden Milligan
Mandy Payne
Annette Pugh
Kes Richardson
Ben Sadler
Kate Sherman
Kate Street
Wayne Summers
Catrin Webster
Toby Wills-Hart
Gwaith ar y gweill | Work/in(g) process
Ymarfer celf gan gymuned staff yr Ysgol Gelf ar hyn o bryd | Current art practice from the School of Art staff community
Medi 23 September - Hydref 25 October 2024
Mae'r Ysgol Gelf wrth ei bodd yn cyflwyno enghreifftiau o waith a grëwyd gan ein staff rhagorol, yn ddarlithwyr, staff technegol a staff cymorth eraill. Mae'r arddangosfa'n dangos y dyfnder a’r amrywiaeth o gelf a grëir gan staff yr Ysgol, gan gynnwys y darluniadau, y syniadau, a’r gwaith paratoi - gyda'r nod o rannu'r broses sydd y tu ôl i gynhyrchu gwaith celf a sut mae mynd at i archwilio syniad a'i ddatblygu.
Mae'r Ysgol Gelf yn gymuned o bobl greadigol, ac mae gan bob un angerdd dros gelf, diwylliant a Hanes Celf. Mae'r arddangosfa hon yn cyflwyno artistiaid yr adran i'n myfyrwyr newydd a'r rhai sy’n dychwelyd, ac i'r cyhoedd yn ehangach. Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r arddangosfa ac yn cael eich ysbrydoli mewn rhyw ffordd gan y pethau sy'n ein hysbrydoli ni!
It is with great pleasure that the School of Art presents examples of work created by our outstanding lecturers, technical and other support staff. The exhibition shows the depth and diversity of art practice created by the School’s staff, including drawings, ideas, preparatory work with the intention of sharing the process behind the production of an art work and how an idea is explored and developed.
The School of Art, is a community of creatives who are all passionate about art practice, culture, and the History of Art. This exhibition introduces the department’s artists to our new and returning students and to the wider public. We hope you enjoy the show and are in some way inspired by the things which inspire us!