Astudiaethau Doethurol Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth [DProf]

Bwriad y Doethuriaethau Proffesiynol yw rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol cymwysedig astudio am ddoethuriaeth ac aros mewn swydd ar yr un pryd gan gynnal ymchwil ar lefel doethuriaeth a allai fod yn seiliedig ar eu hymarfer mewn gyrfa.  Dyfernir doethuriaeth broffesiynol i gydnabod cwblhau yn llwyddiannus raglen astudio gymeradwy a ddysgir drwy gwrs, ynghyd â chwblhau gwaith astudiaeth ac ymchwil bellach yn llwyddiannus.  Dyfernir Doethuriaethau Proffesiynol i fyfyrwyr sydd wedi dangos yn llwyddiannus:

  • eu bod wedi creu a dehongli gwybodaeth newydd, drwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch, sydd o ansawdd ddigonol i fodloni adolygiad gan gymheiriaid, ac ehangu gorwelion y ddisgyblaeth.  Dylai hefyd fod yn deilwng o gael ei gyhoeddi neu ei gynhyrchu;
  • ei fod wedi mynd ati mewn ffordd systematig i gaffael a deall corpws sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad o ran disgyblaeth academaidd neu faes ymarfer proffesiynol; neu sy’n debygol o arwain at newid proffesiynol neu sefydliadol yng ngweithle/proffesiwn yr ymgeisydd; 
  • gallu cyffredinol i gysyniadoli, cynllunio a gwireddu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad o ran y ddisgyblaeth honno, ynghyd â'r gallu i newid cynllun y prosiect yng ngoleuni problemau nas rhagwelwyd;
  • dealltwriaeth fanwl am dechnegau y gellir eu defnyddio i gynnal ymchwil ac ymholi academaidd uwch.

Fel rheol, bydd y rhai sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gallu:

  • llunio barn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu cyfleu eu syniadau a'u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol a chyffredinol;
  • dangos eu bod yn gallu eu cyfeirio eu hunan, a gweithio mewn modd gwreiddiol, wrth ymdrin â phroblemau, a gweithio o'u pen a'u pastwn eu hun wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol;
  • parhau i ymgymryd ag ymchwil pur a/neu gymhwysol ar lefel uwch, gan gyfrannu'n sylweddol at ddatblygu gwybodaeth, technegau, syniadau neu ddulliau newydd.

Bydd deiliaid graddau doethurol wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil sy'n darparu'r rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys;

  • ymarfer safon uchel o fenter a chyfrifoldeb personol;
  • gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth na ellir eu rhagweld mewn amgylcheddau proffesiynol neu gyfatebol;
  • y gallu i ddysgu’n annibynnol sydd ei angen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Am wybodaeth pellach cysylltwch a:

Ffôn: +44 [0] 01970 622023
E-bost: derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk