Cydymffurfiaeth Fisâu Myfyrwyr

Myfyrwyr newydd - Cyrraedd a thasgau Cyn Cofrestru

Cyn y cewch chi gofrestru ar eich cwrs gyda'ch adran, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Deffro eich cyfrif e-bost Aber;
  • Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth, uwch-lwythwch eich dogfennau fisa trwy’r porth myfyriwr. Byddwch yn derbyn negeseuon e-bost rheolaidd yn egluro sut i wneud hyn;
  • Os oes gennych Fisa Myfyriwr bydd angen i chi hefyd drefnu i gwrdd â'r Tîm Cydymffurfiaeth wyneb yn wyneb. Bydd manylion ynglŷn â gwneud hyn yn cael eu hanfon atoch.

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr gyrraedd Aberystwyth erbyn dechrau'r tymor. Os nad oes modd i chi gyrraedd erbyn dechrau'r tymor, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd cyn gynted â phosib ar ôl y dyddiad hwnnw ac erbyn y dyddiad cofrestru olaf ar gyfer eich cwrs (nodir hwn yn eich llythyr Cadarnhad Derbyn i Astudio).

Nodwch na fydd deiliaid Fisa Myfyriwr nad ydynt yn cyrraedd Aberystwyth a chofrestru ar gyfer eu cwrs erbyn y dyddiad cofrestru olaf yn eu llythyr Cadarnhad Derbyn i Astudio yn cael cofrestru, a bydd nawdd eu Fisa Myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl.

Os byddwch yn wynebu trafferthion teithio, dylech gysylltu â'r Swyddfa Gydymffurfiaeth cyn gynted â phosib.

 

Ar 5 Hydref 2020, cyflwynodd llywodraeth y DU newidiadau i'r llwybr mewnfudo ar gyfer myfyrwyr. Bellach, gelwir llwybr 'Haen 4' yn llwybr 'Myfyrwyr'. Os oes gennych fisa Haen 4, mae'r rheolau ar gyfer Fisa Myfyriwr yn berthnasol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn 'noddwr' cofrestredig dan y System Fewnfudo ar sail Pwyntiau. Mae hyn yn ein galluogi i ddenu a noddi myfyrwyr sy'n dod o wledydd o'r tu hwnt i'r DU/Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r Swyddfa Gartref yn rhoi cyfrifoldeb ar fyfyrwyr a phrifysgolion i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfau mewnfudo.

Fel noddwr, rhaid i Brifysgol Aberystwyth gyflawni'r holl ymrwymiadau sy'n ofynnol gan UKVI er mwyn eich noddi fel myfyriwr. Eich cyfrifoldeb chi, fel myfyriwr a noddir, yw cydymffurfio ag amodau eich fisa. Gweler y canllawiau ar Gyfrifoldebau Fisa Myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â compliance@aber.ac.uk.