Ffurflen Gais Dogfennaeth i Gyn-fyfyrwyr

Mae’n bosib i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wneud cais am drawsysgrif neu lythyr yn cadarnhau eu hastudiaethau drwy lenwi'r ffurflen yma. Mae’n rhaid cwblhau pob maes sydd hefo seren. Byddwch yn derbyn ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith o’ch cais.

Trawsysgrif: Dogfen sydd yn dangos y cwrs y buoch yn astudio yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, dosbarth eich gradd a marciau ar gyfer y modiwlau a astudiwyd. Os na gwblhawyd eich gradd bydd y marciau ar gyfer y modiwlau a gafodd ei asesu yn cael eu dangos.

Llythyr Cadarnhau Astudiaethau: Bydd y ddogfen yma yn cadarnhau eich bod wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dangos eich dyddiadau cofrestru, cwrs astudiwyd, gradd a wobrwywyd a dosbarth y radd (os yw’n berthansol). Os dynnoch chi allan o’ch cwrs bydd hyn yn cael ei nodi ar y llythyr.

Datganiad Preifatrwydd: Rwy’n deall y bydd yr wybodaeth a roddais uchod yn cael ei dosbarthu i aelodau perthnasol o'r staff at pwrpas cwblhau fy nghais.  Deallaf y bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chadw yn ôl yr angen er mwyn i'r Brifysgol gyflawni tasgau er budd y cyhoedd (GDPR Erthygl 6(1)(e) ac o dan ei rhwymedigaethau contractiol (GDPR Erthygl 6(1)(b)).  Rwy'n deall y bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw am ddim mwy na mis ar ôl cyflwyno'r cais hwn.