4.23.1 Ychwanegiad at Gonfensiynau Arholiadau 2020/21

Dangosyddion modiwlau i'w defnyddio yn 2020/21

Defnyddir y dangosyddion isod ar gyfer marciau modiwl sy'n is na 40% mewn modiwlau israddedig (50% i fodiwlau lefel M a marciau uwchraddedig):

A

Absennol o arholiad ailsefyll Awst yn unig

F

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

H

Ailsefyll am farc llawn (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

M

Ailsefyll am farc llawn (rhan un)

N

Ni chaniateir ailsefyll (achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn unig)

P

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan un yn unig mewn achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol)

R

Ailsefyll am farc llawn (rhan un yn unig)

S

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

T

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau - Lefel M yn unig a marciau uwchraddedig)

U

Dangosydd dros dro am farc coll yn sgil honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol nad yw'r ymchwiliad iddo wedi'i gwblhau eto

Cafodd y dangosyddion canlynol eu cario drosodd o 2019/20 ar gyfer marciau modiwlau:

Q

Llai na 50% o'r asesu sydd wedi'i gynnal, neu ddim asesu o gwbl, ac felly ni cheir marc ar gyfer y modiwl. NI CHEIR cyfle i ailsefyll unrhyw ran o'r asesiad yn y dyfodol, er y gallai myfyriwr ailadrodd y modiwl yn rhan o flwyddyn sy'n cael ei hailadrodd.

Bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen a dyfarnu gradd, ond ni fydd yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.

Y

I'w ddefnyddio pan fo'r marc a roddwyd yn deillio o asesiadau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, pan na chynhaliwyd asesiadau amgen a phan mai marc pasio yw'r marc.

Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd Y yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd. Ni fydd Y yn cael ei ddefnyddio ar gyfer modiwl a fethwyd.

Amgylchiadau arbennig

1. Ni ofynnir i fyfyrwyr gyflwyno ffurflenni Amgylchiadau Arbennig na thystiolaeth ar gyfer modiwlau a asesir yn ystod semester un a semester dau 2020/21.

2. Os na all myfyrwyr gwblhau asesiadau, beth bynnag fo'r rheswm, fe fyddant yn awtomatig yn cael cyfleoedd i ailsefyll heb gapio'r marciau (dangosydd M/H) os nad ydynt yn cyflwyno gwaith neu os ydynt yn methu, ac eithrio lle mae cosb Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i rhoi neu os oedd y canlyniad blaenorol yn gyfle ailsefyll am farc wedi'i gapio.

3. Bydd y drefn Amgylchiadau Arbennig arferol yn cael ei gohirio dros dro am sesiwn academaidd 2020/21 i gwmpasu cyfnodau asesu semester un a semester dau yn ogystal â'r traethodau PGT a gyflwynir ddiwedd mis Medi yn unig.

Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA)

4. Os cafodd cosb YAA ei dyfarnu bydd hynny'n sefyll ac NI chaniateir ailsefyll am farc heb ei gapio (oni bai bod hynny'n cael ei gymeradwyo yn rhan o'r broses YAA).

Myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid

5. Bernir bod myfyrwyr sy'n dychwelyd o gynllun cyfnewid, ac na fu modd iddynt gwblhau rhywfaint neu'r cwbl o'u hasesiad gyda darparwr y cyfnod cyfnewid, wedi pasio at ddibenion symud ymlaen a bydd modd iddynt hefyd ailadrodd credydau yn ystod y flwyddyn ganlynol os dymunant.

6. Bydd myfyrwyr a fu yma ar gyfnod cyfnewid yn cael marciau am fodiwlau ar y telerau uchod.

Bydd rheolau symud ymlaen yn dal mewn grym.

7. Gweler Confensiynau Arholiadau'r Brifysgol:

LlAA 4.2 Gradd Baglor: Rheolau Symud Ymlaen

LlAA 4.3 Graddau Meistr integredig: Rheoliadau Symud Ymlaen

LlAA 4.7 Graddau Sylfaen: Rheolau Symud Ymlaen

LlAA 4.14 Rheolau Symud Ymlaen ar gyfer Cynlluniau Uwchraddedig a Ddysgir

Rhan Un rhaglenni Baglor a Meistr Integredig a dwy flynedd gyntaf cynlluniau sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen (lefelau 0 ac 1)

8. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (dangosydd M) yn achos methu neu beidio cyflwyno; rhaid cymryd y rhain ar y cyfle cyntaf sef, yn y rhan fwyaf o achosion, ym mis Awst 2021 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno.

9. Ni fydd cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu ceisio ym mis Awst (bydd myfyrwyr a fethodd mwy nag 80 credyd yn cael cynnig dewis rhwng ceisio ailsefyll ym mis Awst neu ail-wneud y flwyddyn; bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r myfyrwyr ar ôl i'r canlyniadau gael eu rhyddhau i wneud y cynnig hwn).

10. Ni fydd unrhyw gyfle i wella ar farciau pasio (noder nad yw canlyniadau Rhan Un y rhaglenni hyn yn cyfrif tuag at ddosbarth y radd derfynol).

Rhan Dau rhaglenni Baglor a Meistr Integredig (Lefelau 2, 3 a 4) ac israddedigion ar gynlluniau Gradd Sylfaen (Lefelau 1 a 2)

11. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (dangosydd H) yn achos methu neu beidio cyflwyno; rhaid cymryd y rhain ar y cyfle cyntaf sef, yn y rhan fwyaf o achosion, ym mis Awst 2021 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno.

12. Ni fydd cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu ceisio ym mis Awst (bydd myfyrwyr a fethodd mwy nag 80 credyd yn cael cynnig dewis rhwng ceisio ailsefyll ym mis Awst neu ail-wneud y flwyddyn; bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r myfyrwyr ar ôl i'r canlyniadau gael eu rhyddhau i wneud y cynnig hwn).

13. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle pellach i wella marc unrhyw fodiwl a basiwyd, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gofrestru ym mis Gorffennaf os dymunant gymryd y cyfle hwn, sy'n cael ei roi ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll. Caiff myfyrwyr eu cynghori'n gryf i drafod â'u hadrannau academaidd ynglŷn ag oblygiadau cymryd cyfle o'r fath cyn cofrestru i ailsefyll modiwl y maent wedi'i basio.

14. Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael un cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth dangosol pan gyhoeddir y canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn (dim ond yn achos graddau Baglor a Meistr â dosbarth mae hyn yn gymwys). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.

Uwchraddedigion a Ddysgir

15. Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (dangosydd H) yn achos methu neu beidio cyflwyno. Rhaid i fyfyrwyr sy'n cwblhau cymhwyster ym mis Mehefin/Gorffennaf ailsefyll ym mis Awst oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Caiff myfyrwyr Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf ailsefyll ym mis Awst neu yn ystod y sesiwn ganlynol.

16. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle pellach i wella marc unrhyw fodiwl a basiwyd, gan gynnwys y traethawd hir, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst (yn achos myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen yn semester dau) neu ym mis Awst neu'r sesiwn ganlynol yn achos ymgeiswyr am radd Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf.

17. Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael un cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth dangosol pan gyhoeddir y canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn neu ym mis Rhagfyr 2021 (dim ond yn achos graddau Meistr â dosbarth mae hyn yn gymwys). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.

Dosbarthiad Dyfarniadau

18. Bydd modiwlau y bernir sydd wedi'u pasio (hynny yw, rhai â dangosydd Q) yn cyfrif tuag at gyfanswm y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad, ond efallai na fyddant yn gyfwerth â mwy nag un rhan o dair o'r credydau angenrheidiol. Ni ddefnyddir y modiwlau hyn wrth gyfrifo dosbarth y radd. Nid yw nifer y credydau y caniateir eu methu wedi newid ac mae'n aros yr un fath â'r hyn a nodir yng nghonfensiynau'r arholiadau.

Drws Trugaredd i israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir (graddau Baglor a Meistr â dosbarth)

19. Bydd myfyrwyr a chanddynt gyfartaledd rhaeadr o fewn 2% i unrhyw ffin yn cael eu codi i'r dosbarth uwch cyhyd â'u bod yn cyflawni meini prawf y pwysau marciau a nodir yng Nghonfensiynau'r Arholiadau.

20. Ni cheir Drws Trugaredd i amgylchiadau arbennig. Mae hyn oherwydd nifer cyfyngedig y marciau sydd i'w cael o'r cyfnod cyn y pandemig y gellir seilio barn arnynt ynglŷn â pherfformiad myfyriwr dros amser a'r penderfyniad a wnaed i ohirio'r amod i gyflwyno ffurflenni Amgylchiadau Arbennig oherwydd trafferthion ynglŷn â chael tystiolaeth a'i ddilysu. Serch hynny, dylid nodi bod gan fyfyrwyr gyfleoedd ychwanegol i wella dosbarth eu gradd trwy'r cyfle i wella marciau modiwlau a basiwyd a chyfleoedd, nad ydynt i'w cael mewn amgylchiadau arferol, i ailsefyll am farc heb ei gapio yn achos modiwlau a fethwyd.

Uwchraddedigion Ymchwil

21. Yn achos myfyrwyr sy'n cymryd modiwlau a ddysgir yn ystod semester un a dau, bydd cyfle ailsefyll am farc heb ei gapio yn cael ei roi ar gyfer pob modiwl a fethwyd heb yr amod i ddarparu ffurflenni Amgylchiadau Arbennig.

22. Ni chaniateir ailsefyll modiwlau a basiwyd.