4.9 Dychwelyd i Ymarfer (Nyrsio Oedolion)

Rheolau symud ymlaen

1. Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 40% ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr basio'r holl asesiadau sy’n rhan o’r cymhwyster ym mhob modiwl. Rhaid pasio pob modiwl, h.y., 60 credyd, cyn y gall y Brifysgol roi gwybod i’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bod yr unigolyn yn gallu dychwelyd i ymarfer.

Cywiro methiant

2. Bydd gofyn i fyfyrwyr ailsefyll a/neu ailgyflwyno'r elfen(nau) a fethwyd ar ddiwedd y modiwl(au).

3. Dim ond asesiadau a fethwyd y gall myfyrwyr eu hailsefyll.

4. Bydd myfyrwyr yn cael UN cyfle i ailsefyll modiwl ymarfer neu elfen a fethwyd a rhoddir 7 wythnos iddynt wneud iawn am unrhyw waith ar leoliad a oedd yn eisiau.

5. Bydd myfyrwyr yn cael UN cyfle i ailsefyll modiwl damcaniaethol a fethwyd, o fewn y cyfnod o 27 wythnos.