4.24 Ychwanegiad Gweithredu Diwydiannol at Gonfensiynau Arholiadau 2022/23

1. Dangosyddion modiwlau i'w defnyddio yn 2022/23

Defnyddir y dangosyddion isod ar gyfer marciau modiwl sy'n is na 40% ar gyfer modiwlau israddedig (50% ar gyfer modiwlau lefel M a marciau uwchraddedig):

F

Ailsefyll ar gyfer marc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

H

Ailsefyll am farc llawn (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau) – Amgylchiadau Arbennig

M

Ailsefyll ar gyfer marc llawn (rhan un) – Amgylchiadau Arbennig

N

Ni chaniateir ailsefyll (achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn unig)

P

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan un yn unig mewn achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol)

R

Ailsefyll am farc llawn (rhan un yn unig)

S

Ailsefyll ar gyfer marc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)

T

Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau - Lefel M yn unig a marciau uwchraddedig)

U

Dangosydd dros dro am farc coll yn sgil honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol nad yw'r ymchwiliad iddo wedi'i gwblhau eto

 2. Dangosyddion modiwl i'w defnyddio yn semester dau 2022/23 lle mae gweithredu diwydiannol wedi effeithio ar yr asesiad:

Q

I’w ddefnyddio pan fo llai na 50% o'r asesiad neu ddim o’r asesiad wedi rhedeg a/neu lai na 50% o'r marciau cydrannol ar gael. Bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen a dyfarnu gradd, ond ni fydd yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.

Y

I'w ddefnyddio pan fo'r marc modiwl a roddwyd yn deillio o asesiadau a/neu farciau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, a phan mai pasio yw'r marc. Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd Y yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.  Ni ddefnyddir Y ar gyfer marciau modiwlau a fethwyd

H

I'w ddefnyddio pan fo'r marc modiwl a roddwyd yn deillio o asesiadau a/neu farciau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, a phan mai methu yw'r marc.  Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd H yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.  Ni ddefnyddir H ar gyfer marciau modiwlau a basiwyd

M

Ailsefyll am farc llawn (rhan un) – Amgylchiadau Arbennig - Defnyddir hefyd pan fo marc y modiwl a roddwyd yn deillio o asesiadau a/neu farciau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, a phan mai methu yw'r marc.  Ni ddefnyddir M ar gyfer marciau modiwlau a basiwyd

3. Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

Os cafodd cosb YAA ei dyfarnu bydd hynny'n sefyll ac NI chaniateir ailsefyll am farc heb ei gapio (oni bai bod hynny'n cael ei gymeradwyo yn rhan o'r broses YAA).

4. Myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid

Bydd myfyrwyr a fu ar gyfnod cyfnewid yma yn cael marciau ar gyfer modiwlau ar y telerau uchod.

5. Rheolau symud ymlaen

Gweler Confensiynau Arholiadau y Brifysgol ar gyfer y rheolau symud ymlaen sy'n dal i fod yn berthnasol:
LlAA 4.2 Gradd Baglor: Rheolau Symud Ymlaen

LlAA 4.3 Graddau Meistr integredig: Rheolau Symud Ymlaen

LlAA 4.7 Graddau Sylfaen: Rheolau Symud Ymlaen

LlAA 4.14 Rheolau Symud Ymlaen ar gyfer Cynlluniau Uwchraddedig a Addysgir

6. Rhan Un rhaglenni Baglor a Meistr Integredig a dwy flynedd gyntaf cynlluniau sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen (lefelau 0 ac 1)

Bydd modiwlau gyda dangosyddion Q a Y yn cael eu heithrio o'r cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu hailsefyll ym mis Awst.

Bydd myfyrwyr â dangosyddion H neu M yn cael cynnig cyfleoedd ailsefyll heb eu capio yn achos methu neu beidio cyflwyno; rhaid cymryd y rhain ar y cyfle cyntaf sef, yn y rhan fwyaf o achosion, ym mis Awst 2023 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno.

Ni fydd unrhyw gyfle i wella ar farciau pasio (noder nad yw canlyniadau Rhan Un y rhaglenni hyn yn cyfrif tuag at ddosbarth y radd derfynol).

7. Rhan Dau rhaglenni Baglor a Meistr Integredig (Lefelau 2, 3 a 4) ac israddedigion ar gynlluniau Gradd Sylfaen (Lefelau 1 a 2)

Bydd modiwlau gyda dangosyddion Q a Y yn cael eu heithrio o'r cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu hailsefyll ym mis Awst.

Bydd myfyrwyr sy’n parhau â’u cyrsiau yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gofrestru ym mis Gorffennaf 2023 os dymunant gymryd y cyfle hwn, sy'n cael ei roi ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll. Caiff myfyrwyr eu cynghori'n gryf i drafod â'u hadrannau academaidd ynglŷn ag oblygiadau cymryd cyfle o'r fath cyn cofrestru i ailsefyll modiwl y maent wedi’i basio.

Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf sydd â marciau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael eu dosbarth dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn (noder bod hyn ond yn berthnasol i raddau Sylfaen, Baglor a Meistr).  Pe bai marciau coll ar gael yn ddiweddarach, bydd dosbarthiadau’r graddau’n cael eu hailgyfrifo ar sail ‘dim anfantais’ (bydd y marc uchaf yn sefyll) a bydd unrhyw fyfyriwr yn eu blwyddyn olaf sy’n gwella ar ddosbarth eu gradd yn derbyn y dosbarth gradd uchaf.

Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf sydd ag asesiadau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael cyfle i dderbyn neu wrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn (noder bod hyn ond yn berthnasol i raddau Sylfaen, Baglor a Meistr). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.

Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf sy’n dewis gwrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr y flwyddyn olaf gofrestru ym mis Gorffennaf 2023 os dymunant gymryd y cyfle hwn, sy'n cael ei roi ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll. Caiff myfyrwyr y flwyddyn olaf eu cynghori'n gryf i drafod â'u hadrannau academaidd ynglŷn ag oblygiadau cymryd cyfle o'r fath cyn cofrestru i ailsefyll modiwl y maent wedi’i basio.

8. Uwchraddedigion a Addysgir

Bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn gan gynnwys y traethawd hir, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 (yn achos myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen yn semester dau), oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno, neu ym mis Awst 2023 neu'r sesiwn ganlynol yn achos ymgeiswyr am radd Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf.  Bydd y cyfle hwn ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll.

Bydd myfyrwyr sydd â marciau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael eu dosbarth dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn neu ym mis Rhagfyr 2023.  Pe bai marciau coll ar gael yn ddiweddarach, bydd dosbarthiadau’r graddau’n cael eu hailgyfrifo ar sail ‘dim anfantais’ (bydd y marc uchaf yn sefyll) a bydd unrhyw fyfyriwr sy’n gwella ar ddosbarth eu gradd yn derbyn y dosbarth gradd uchaf.

Bydd myfyrwyr sydd ag asesiadau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael cyfle i dderbyn neu wrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn neu ym mis Rhagfyr 2023 (noder bod y cyfle hwn ond yn berthnasol i raddau Meistr â dosbarth). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.

Bydd myfyrwyr sy’n dewis gwrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 (yn achos myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen yn semester dau), neu ym mis Awst 2023 neu'r sesiwn ganlynol yn achos ymgeiswyr am radd Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf.  Bydd y cyfle hwn ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll.

9. Dosbarthiad graddau Sylfaen a Baglor

Bydd modiwlau y bernir sydd wedi'u pasio (hynny yw, rhai â dangosydd Q) yn cyfrif tuag at gyfanswm y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer graddau Sylfaen/Baglor, ond efallai na fyddant yn gyfwerth â mwy nag un rhan o dair o'r credydau angenrheidiol. Ni ddefnyddir y modiwlau hyn wrth gyfrifo dosbarth y radd. Nid yw nifer y credydau y caniateir eu methu wedi newid ac mae'n aros yr un fath â'r hyn a nodir yng nghonfensiynau'r arholiadau.

10. Dosbarthiad graddau Meistr Integredig

Bydd modiwlau y bernir sydd wedi'u pasio (hynny yw, rhai â dangosydd Q) yn cyfrif tuag at gyfanswm y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer gradd Meistr Integredig, ond efallai na fyddant yn gyfwerth â mwy nag un rhan o dair o'r credydau angenrheidiol ar lefelau chwech a saith.  Ni ddefnyddir y modiwlau hyn wrth gyfrifo dosbarth y radd.  Nid yw nifer y credydau y caniateir eu methu wedi newid ac mae'n aros yr un fath â'r hyn a nodir yng nghonfensiynau'r arholiadau.

11. Uwchraddedigion Ymchwil

Ar gyfer modiwlau a addysgir yn ystod semester dau 2023, bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle arall i ailsefyll modiwl lle mae'r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a rhaid ei gymryd ar y cyfle cyntaf.  Ni chaniateir ailsefyll modiwlau a basiwyd.