4.11.1 Blwyddyn Un – Gofynion i drosglwyddo i Flwyddyn Dau

1. Bydd myfyrwyr yn pasio blwyddyn un os ydynt yn bodloni’r ddau amod a ganlyn yn yr asesiadau ar gyfer modiwlau blwyddyn un:

(i) ennill marc o 40% neu ragor mewn modiwlau sy’n werth 120 o gredydau

a

(ii) Rhaid i fyfyrwyr basio pob elfen o bob modiwl. Rhaid i fyfyrwyr ailsefyll pob asesiad a fethwyd i basio'n gyffredinol.

2. Fel arfer, caiff myfyrwyr blwyddyn un hyd at DRI chyfle i ailsefyll. Dim ond hyd at 40% o’r marciau y gellir eu cael wrth ailsefyll. Bydd gofyn i fyfyrwyr achub ar y cyfle ailsefyll cyntaf ar gyfer yr holl asesiadau yng nghyfnod arholiadau ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid i'r ail gyfle i ailsefyll ar gyfer unrhyw fodiwlau a fethwyd ddigwydd yn ystod y sesiwn ganlynol, yn y semester mae'r modiwl yn cael, neu wedi cael ei ddysgu o'r blaen. Serch hynny, bydd rhaid i fyfyrwyr fod wedi pasio o leiaf 60 credyd i gael caniatâd i gael eu hasesu ym mis Awst; os ydynt wedi pasio llai na 60 o gredydau, bydd rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn gyntaf. Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (arwydd ail-sefyll M) ar gael gan Fyrddau Arholi os derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar y perfformiad.