4.16 Tystysgrif Addysg Uwch: Addysg Gofal Iechyd

Yn berthnasol i bob myfyriwr sy'n dechrau o fis Medi 2023

Rheolau symud ymlaen

1. Y marc i basio modiwlau yw 40% ac mae'n rhaid i fyfyrwyr basio bob asesiad sy’n rhan o’r cymhwyster ym mhob modiwl i ennill y dyfarniad.

Cywiro methiant

2. Bydd angen i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen neu’r elfennau a fethwyd ym mhob semester. Bydd myfyrwyr yn cael DAU gyfle i ailsefyll cydran neu fodiwl theori a fethwyd. Daw’r cyfle cyntaf i ailsefyll yn ystod y flwyddyn. Os methir y cyfle i ailsefyll yn ystod y flwyddyn, bydd y cyllid yn cael ei atal am flwyddyn a bydd gan fyfyrwyr un cyfle olaf i ailsefyll yn allanol o fewn 12 mis. Ar ôl ailsefyll yn allanol bydd myfyrwyr yn ailymuno â'r brif garfan yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.

3. Dim ond UN cyfle ailsefyll a geir yn achos yr elfen Ymarfer Proffesiynol ar ddiwedd y lleoliad. Bydd myfyrwyr sy’n gorfod ailsefyll yr elfen Ymarfer Proffesiynol ac sydd eisiau symud ymlaen i nyrsio’n rhan-amser yn gwneud hynny ar y cyfle nesaf (h.y. y flwyddyn ddilynol).

4. Dim ond asesiadau a fethwyd y mae myfyrwyr yn cael eu hailsefyll.

Dyfarniadau gadael

5. Nid oes unrhyw ddyfarniadau wrth gefn.

Newid Statws Cyflogaeth

6. Os yw cyflogwr yn rhoi’r gorau i gyflogi myfyriwr yn ystod y rhaglen:

i) Pe bai cyflogwr yn rhoi’r gorau i gyflogi myfyriwr yn ystod y rhaglen, byddai disgwyl i'r myfyriwr dynnu'n ôl dros dro bryd hynny. Pe bai'r myfyriwr yn cael ei gyflogi o’r newydd o fewn i delerau contract AaGIC, ac yn unol â chytundeb ei reolwr llinell newydd, gall fynd yn ôl at ei astudiaethau yn nes ymlaen.

ii) Os na fydd myfyrwyr yn llwyddo i gael gwaith cyflogedig o fewn i delerau contract AaGIC byddant yn cael eu tynnu o'r rhaglen yn barhaol.

7. Newid swyddogaeth myfyriwr yn ystod y rhaglen:

i) Pe bai'r gwaith newydd (yr un cyflogwr) yn ymwneud â chleifion/defnyddwyr y gwasanaeth, ac y gallent gael cefnogaeth ymarferol gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswr Ymarfer, caniateir i fyfyrwyr barhau â'r rhaglen.

ii) Pe na bai’r gwaith newydd (yr un cyflogwr) yn ymwneud â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth, rhaid iddynt naill ai dynnu'n ôl dros dro neu dynnu'n ôl o'r rhaglen yn barhaol, gan fod y gwaith hwnnw'n golygu na fyddent yn gallu cyflawni gofynion y modiwl craidd seiliedig ar ymarfer, sy'n ofynnol i gwblhau'r rhaglen.

iii) Pe bai’r gwaith newydd gyda chyflogwr gwahanol, yna eto cyhyd â bod y swydd newydd yn ymwneud â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth, gallent barhau â'r rhaglen, cyhyd â bod y cyflogwr newydd yn cytuno i barhau eu habsenoldeb astudio, i ryddhau amser astudio.