Atodiad A - Rheoliadau ar gyfer cyflwyno traethodau ymchwil a traethodau hir

1.   Rhaid i ymgeiswyr sy’n cyflwyno traethodau i’w harholi am raddau uwch gyflwyno’r nifer gofynnol o gopïau naill ai mewn cyflwr sy’n addas ar gyfer eu hadneuo a’u defnyddio maes o law mewn lIyfrgelloedd (gweler isod) neu mewn rhwymiad dros dro. Cynghorir ymgeiswyr sy’n dewis cyflwyno’u gwaith i’w arholi mewn rhwymiad dros dro i wneud y canlynol:

(a) sicrhau bod y rhwymiad dros dro - os yw’n cael ei ddefnyddio - yn ddigon cadarn i wrthsefyll cael ei anfon at yr arholwyr ac yn ôl (Gweler Atodiad B).

(b) sicrhau bod unrhyw draethawd ymchwil/traethawd hir a gyflwynir i’w arholi mewn rhwymiad dros dro yn dangos enw’r ymgeisydd, y Brifysgol a’r radd y mae’n ymgeisio amdani ar y meingefn ar ffurf na ellir ei dileu na’i datgysylltu’n hawdd.

2. Beth bynnag y bo’r math o rwymiad a ddefnyddir i bwrpas arholi:

(a) Cyn i Gynullwyr y Byrddau Arholi ryddhau canlyniadau’r ymgeiswyr IIwyddiannus, rhaid i draethodau ymchwil ar gyfer graddau ymchwil MPhil, PhD a Doethur drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil gael eu rhwymo yn barhaol o fewn cloriau caled, gyda rhwymiad sefydlog lie mae’r dalenni wedi’u dal yn barhaol fel mewn lIyfr clawr caled. Bydd y cloriau yn ddigon caled i gynnal pwysau’r gyfrol pan fydd yn sefyll ar silff.

(b) Cyn i Gynullwyr y Byrddau Arholi ryddhau canlyniadau ymgeiswyr IIwyddiannus, rhaid i draethodau ymchwil gradd Athro a Ddysgir drwy Gwrs sydd i gael eu hadneuo yn y Llyfrgell Genedlaethol neu yn lIyfrgell y Brifysgol, gael eu rhwymo yn barhaol, naill ai fel yn (a) uchod neu mewn rhwymiad c1awr papur gyda throshaen blastig. Nid oes angen i draethodau IIwyddiannus am radd Athro a Ddysgir drwy Gwrs nad ydynt i gael eu hadneuo yn y Llyfrgell Genedlaethol nac yn lIyfrgell y Brifysgol gael eu rhwymo’n barhaol naill ai cyn nag ar ôl rhyddhau’r canlyniadau.

3. Yn achos yr holl weithiau sydd i’w hadneuo mewn lIyfrgelloedd, rhaid i feingefn y cyfrolau sydd wedi’u rhwymo’n barhaol ddangos cyfenw a lIythrennau cyntaf enw’r ymgeisydd, teitl lIawn y gwaith neu deitl wedi’i dalfyrru, enw’r radd y’i cyflwynwyd amdani a dyddiad y cyflwyno. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei hargraffu ar y meingefn mewn ffordd fydd yn ddarllenadwy pan fydd y gyfrol yn gorwedd yn wastad gyda’r clawr blaen uchaf. Os yw’r gwaith yn cynnwys rhagor nag un gyfrol, rhaid i’r meingefn hefyd gynnwys rhif pob cyfrol.

4. Rhaid i’r holl gopïau o draethodau ymchwil/traethodau hir, boed i bwrpas arholi neu adneuo mewn lIyfrgelloedd, gael eu cyflwyno ar ffurf barhaol a darllenadwy mewn teipysgrif neu brint a rhaid i’r lIythrennau a ddefnyddir yn y prif destun (ond nid o reidrwydd yn y darluniau, mapiau ac ati) beidio â bod yn lIai na l2pt; rhaid i Iythrennau a ddefnyddir ym mhob testun arall, nodiadau, troednodiadau ac yn y blaen, beidio a bod yn lIai na l0pt. Rhaid i’r teipio fod o ansawdd gyson gyda lIythrennau du clir, y gellir eu hatgynhyrchu’n ffotograffig. Rhaid defnyddio bylchiad dwbl neu un-a-hanner yn y prif destun, ond bylchiad sengl yn y crynodeb ac unrhyw ddyfyniadau wedi’u mewnoli a throednodiadau. Rhaid i ddarluniau a brasluniau fod mewn inc du; rhaid hepgor unrhyw fanylion nad ydynt yn angenrheidiol a rhaid i’r raddfa fod y cyfryw fel nad yw’r gofod lIeiaf rhwng y IIinellau yn lIai na 1mm. Gellir defnyddio graffeg liw ar gyfer siartiau, diagramau ac ati yn ogystal a ffotograffau lIiw, ond ym mhob achos rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod modd lIungopio a microffilmio’r deunydd.

Mae copïau a gynhyrchwyd drwy broses serograffig neu brosesau parhaol tebyg yn dderbyniol. Rhaid defnyddio papur A4 a dylai fod o ansawdd da ac yn ddigon afloyw i’w ddarllen yn y ffordd arferol.

5. Rhaid cyflwyno diagramau, mapiau a dogfennau tebyg mewn portffolio o faint rhesymol a rhaid iddo gynnwys yr un manylion ag sy’n ofynnol ar gyfer y gyfrol.

6. Caiff ymgeiswyr gyflwyno deunyddiau nad ydynt ar ffurf lIyfr, megis tapiau sain neu dapiau fideo, gyda’u traethawd ymchwil/traethawd hir os yw deunydd o’r fath yn ychwanegiad defnyddiol, neu yn esboniad o waith sydd wedi’i gynnwys yn y cyflwyniad ysgrifenedig ac os dyna yw’r dull mwyaf priodol o gyflwno’r wybodaeth dan sylw. Dylid amgau unrhyw ddeunydd o’r fath mewn cynhwysydd sydd yn addas ar gyfer ei storio ar silff lIyfrgell ac sydd yn dangos yr un wybodaeth ag sy’n ofynnol ar feingefn y traethawd ymchwil/traethawd hir, wedi’i gosod fel ei bod yn ddarllenadwy pan fydd y cynhwysydd yn ei safle storio. Dylai ymgeiswyr sydd yn ystyried cyflwyno tapiau sain neu fideo fel atodiadau i’w traethawd ymchwil/traethawd hir ymgynghori a’u harolygydd a lIyfrgellydd y Brifysgol i gael cyngor yn gynnar yn ystod eu prosiect.