Atodiad B - CyfIwyno Traethawd am Radd Uwch mewn Rhwymiad Dros Dro

Canllawiau i’r Byrddau Arholi

1.   (i)   Caiff ymgeiswyr gyflwyno’r traethawd i’w arholi mewn rhwymiad clawr caled parhaol, mewn rhwymiad clawr papur a throshaen blastig neu mewn rhwymiad diogel dros dro.

      (ii) Wedi i’r arholiad gael ei gwblhau, mae’r Brifysgol yn gofyn i’r arholwr allanol ddychwelyd traethodau a rwymwyd mewn rhwymiad dros dro yn uniongyrchol i Gadeirydd/Cynullydd y Bwrdd Aholi. Lie bo’r ymgeisydd wedi IIwyddo ond bod angen mân gywiriadau neu gywiriadau teipograffig, dylai’r Cadeirydd/Cynullydd drefnu bod yr ymgeisydd yn gwneud y cywiriadau angenrheidiol ac wedyn bod y ddau gopi o’r traethawd yn cael eu rhwymo mewn rhwymiadau parhaol ar y ffurf sy’n ofynnol er mwyn eu hadneuo yn y lIyfrgelloedd. Pan fo hyn wedi ei wneud, a’r Cadeirydd/Cynullydd wedi’i fodloni bod pob dim wedi’i wneud yn iawn, dylai’r Cadeirydd/Cynullydd anfon y ffurflen Canlyniad ac Adroddiad, wedi ei lIenwi, i’r Gorfrestrfa. Rhaid peidio ag anfon y ffurflen yn uniongyrchol i’r Gofrestra nes bod y gwaith wedi ei rwymo’n barhaol.

      (iii) Rhaid i Gadeiryddion/Cynullyddion Byrddau Arholi beidio a rhyddhau canlyniadau ymgeiswyr nes bod unrhyw fan gywiriadau neu gywiriadau teipograffig sy’n ofynnol wedi’u gwneud a’r traethawd wedi’i rwymo ar y ffurf barhaol sy’n ofynnol yn ôl y rheoliadau i’w adneuo a’i ddefnyddio yn y lIyfrgelloedd. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw gwneud y cywiriadau gofynnol a threfnu bod y gwaith yn cael ei rwymo. Dylai’r Cynullyddion wirio bod y tasgau hyn wedi’u gwneud yn foddhaol.

2.   Mathau o Rwymo Dros Dro

Ni ddylid drysu rhwymiad dros dro a dim rhwymiad o gwbl. Nid yw dalenni rhydd mewn ffeil waled yn foddhaol. Mae’r Gorfrestrfa yn rhoi canllawiau i ymgeiswyr yn ymwneud a derbynioldeb gwahanol fathau o rwymiad dros dro.

(i)   Argymhellir y mathau canlynol o rwymo dros dro:

      - rhwymiad perffaith (fel y ddogfen hon)

      -rhwymiad meingefn sbring (cyhyd â bod y ffeiliau heb eu gorlenwi)

      - rhwymiad plastig ‘lIithro-i-mewn’ (o’r math a ddefnyddir i hongian posteri ar waliau)

(ii) Nid yw’r mathau canlynolo rwymiad dros dro yn addas, gan y byddai trosglwyddo i rwymiad parhaol wedyn yn cymryd mwy o amser (ac felly yn ddrutach); a byddai’r tudalennau yn y fersiwn parhaol naill ai’n dangos y tyllau yn y tudalennau neu bydd y tudalennau’n gryn dipyn yn lIai na lied A4 lIawn:

- rhwymiad troellog

- ffeil fodrwy neu ffeillifer

(iii) Gofynnir i ymgeiswyr (a’r rhai sydd yn eu cynghori) gofio bod rhaid i draethodau sydd â rhwymiad dros dro fod yn gallu gwrthsefyll cael eu trin a’u trafod, eu cludo at yr arholwyr ac yn ôl, yn ogystal â’r broses arholi ei hun. Rhaid gofalu bod unrhyw rwymiad dros dro a ddefnyddir yn ddigon cadarn i beidio ymddatod neu dorri.

(iv) Pa ddull bynnag o rwymiad dros dro a ddewisir, mae’n hollol hanfodol bod y meingefn yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Reoliad y Brifysgol (fel y manylir yn Atodiad A). Nid yw’n bosibl i brosesu traethodau ymchwil yn effeithlon os nad yw’r wybodaeth hon yn glir ar y meingefn ar ffurf na ellir ei dileu na’u datgysylltu’n hawdd. Gellir arbed lle drwy ddefnyddio fersiynau talfyredig o enw’r Brifysgol sef: Aberystwyth.

(v) Mae copi o’r rheoliadau sy’n ymwneud â chyflwyno traethodau ymchwil a thraethodau hir i’w weld yn Atodiad A.

3.   Mae’r gofynion eraill sydd yn ymwneud â chyflwyno traethodau i’w harholi yn aros yn ddigyfnewid. Boed wedi’u rhwymo’n barhaol neu dros dro, rhaid bodloni’r terfynau amser cyflwyno a rhaid i’r traethodau ymchwil eu hunain gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau yn ymwneud a maint y lIythrennau, maint y papur, gofod rhwng y llinellau ac ati. Rhaid i bob tudalen fod wedi’i rhifo’n gywir. Hynny yw, nid yw caniatâd i gyflwyno traethawd ymchwil i’w arholi mewn rhwymiad dros dro yn wahoddiad i ymgeiswyr gyflwyno gwaith i’w arholi ar ffurf drafft.

(a) Nid oes gan rwymiad dros dro unrhyw effaith ar y Rheoliadau sydd yn datgan - ar wahân i ganiatáu i wallau bach/teipograffig mewn traethawd IIwyddiannus gael eu newid cyn iddo gael ei adneuo yn y lIyfrgelloedd - na chaiff ymgeisydd newid, ychwanegu at neu ddileu rhan o’r traethawd ar ôl iddo gael ei gyflwyno i’w arholi. Ni chaiff traethodau sydd wedi’u cyflwyno, felly, gael eu dychwelyd i ymgeiswyr i’w gwella cyn i’r Bwrdd Arholi gwblhau eu hystyriaethau a’u hargymhelliad ffurfiol. Dylid methu gwaith nad oes modd ei basio fel y’i cyflwynwyd, ac fe ddylid ei ailgyflwyno’n ffurfiol ar ffurf ddiwygiedig wedyn ar gyfer ailarholiad.

(b) Mae’r Cynullydd/Ysgrifennydd yn adneuo copïau wedi’u rhwymo o’r traethodau IIwyddiannus fel a ganlyn:

1 copi yn uniongyrchol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU
1 copi i Lyfrgell y Brifysgol

Rhaid dileu o’r copïau caled unrhyw nodiadau neu sylwadau ar yr ymylon gan arholwyr mewn traethodau cyn iddynt gael eu hadneuo mewn lIyfrgelloedd.

Yn ogystal â’r cyfrolau mewn rhwymiadau parhaol a roddir yn y lIyfrgelloedd, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr adneuo copi electronig o fersiwn terfynol y traethawd yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol.

Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod traethodau sy’n cael eu hadneuo felly yn cael eu rhoi ar gael i gadwrfeydd a chwiliaduron allanol, gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr lofnodi datganiad yn cadarnhau bod cynnwys y copi electronig a roddwyd i’r gadwrfa electronig yn union yr un peth â’r copi a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael caniatâd hawlfraint priodol ar gyfer cynnwys unrhyw destun neu ddeunydd gan drydydd parti, fel y bydd modd i’r gwaith gael ei ddefnyddio yn gyfreithlon mewn cadwrfa agored-i-bawb.

Dylai’r deunydd a roddir i’r gadwrfa sefydliadol gydymffurfio â chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Pan fydd gwahardd ar fynediad i draethawd, ni chaiff ei adneuo yn y gadwrfa electronig agored-i-bawb nes bod y gwahardd hwnnw yn dod i ben.

(c)  Gofynnir i Arholwyr Allanol (a) hysbysu’r Gofrestrfa ar unwaith os ydynt yn derbyn traethodau ar ffurf drafft i rai sylwadau arnynt a’u dychwelyd cyn cychwyn ar y broses arholi ffurfiol a (b) wrthod yn gadarn unrhyw awgrym y dylid dychwelyd traethawd i ymgeisydd i’w wella ac i’w ailystyried cyn i’r Bwrdd Arholi gwblhau ei ystyriaethau ffurfiol.