3. Penodi’r Bwrdd Arholi

1. Cynullydd ac Ysgrifennydd

Pennaeth yr Adran neu’r Ysgol dan sylw fydd yn gweithredu’n Gynullydd ac Ysgrifennydd, neu gall ddirprwyo’r tasgau gweinyddol yma i aelod hŷn o’r staff academaidd.

2. Cadeirydd

Disgwylir i’r Pennaeth Adran neu Ysgol, fel arfer, gadeirio’r Bwrdd Arholi oni bai i’r Pennaeth ddewis dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i aelod hŷn o’i staff academaidd. Lle bo’r Pennaeth hefyd yn arolygwr yr ymgeisydd dan sylw, rhaid i aelod hŷn o staff academaidd yr Adran gadeirio’r Bwrdd yn ei le/lle.

3 a 4 Arholwyr Mewnol ac Allanol

Penodir aelodau’r Bwrdd yn unol â Rheoliadau a Rheolau Sefydlog perthnasol y Brifysgol. Ni chaiff arolygwr yr ymgeisydd ei benodi’n Arholydd Mewnol. Lle bo’r ymgeisydd yn aelod o’r staff bydd ail Arholydd Allanol yn cymryd lIe’r Arholydd Mewnol.