4. Dyletswyddau Aelodau’r Bwrdd Arholi

Mae’n ofynnol i’r Bwrdd arholi’r traethawd yn ogystal â chynnal arholiad lIafar. Pan gynhelir arholiad ar gyfer traethawd a ailgyflwynir, gellir hepgor y gofyniad i gynnal arholiad lIafar, mewn amgylchiadau arbennig yn unig, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi.

Mae’r Cynullydd ac Ysgrifennydd yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd yn cael eu gweithredu, bod yr holl ddogfennau wedi eu cwblhau a bod holl aelodau’r Bwrdd Arholi’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau.

Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi’n gyfrifol am sicrhau bod yr arholiad, yn cynnwys yr adroddiad ysgrifenedig a’r arholiad lIafar, yn cael ei weithredu’n unol â pholisiau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Hyd y gellir, bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod yr arholi’n deg a diduedd a bydd yn hysbysu’r Brifysgol ynghylch unrhyw faterion amheus yn y cyswllt hwn.

Yn ystod y broses arholi, bydd yr Arholwyr yn:

•    ystyried y traethawd a’r crynodeb(au), neu, yn achos PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig, y gweithiau a’r dadansoddiad beirniadol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;
•    rhoi adroddiad ar gwmpas, cymeriad ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd;
•    bodloni eu hunain drwy arholi, ar lafar neu’n ysgrifenedig, neu’r ddau, a oes gan yr ymgeisydd wybodaeth gyffredinol dda am y maes dysg arbennig y mae’r traethawd yn perthyn iddo;
•    cadw mewn cof meini prawf y Brifysgol ar gyfer dyfarnu’r radd. (Gweler Adran F, ‘Meini Prawf ar gyfer Dyfarnau Graddau Ymchwil’).

Gofynnir i Arholwyr hysbysu’r Swyddfa Academaidd yn syth os ydynt yn derbyn traethodau drafft am sylw cyn bod y broses arholi ffurfiol yn dechrau, a dylent wrthod yn gadarn unrhyw awgrym y dylid dychwelyd y traethawd i’r ymgeisydd i’w gaboli a’i wella cyn cwblhau ystyriaethau ffurfiol y Bwrdd Arholi.

Gofynnir hefyd i Arholwyr Allanol hysbysu’r Swyddfa Academaidd os ydynt yn derbyn traethawd yn uniongyrchol o’r ymgeisydd neu o’r Adran. Caniateir anfon y traethawd at yr Arholydd Allanol gan y Swyddfa Academaidd yn unig.

Wrth argymell cymeradwyo’r ymgeisydd am radd, dylai Byrddau Arholi dystio bod y traethawd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn cwmpasu i raddau helaeth y cynllun ymchwil a gymeradwywyd gan y Brifysgol.

Dylid hepgor o’r arholiad unrhyw ran o’r traethawd sydd eisoes wedi ei derbyn, neu sy’n cael ei chyflwyno ar yr un pryd, am unrhyw radd neu gymhwyster yn y Brifysol neu rywle arall.