7. Arholiad Lafar

Cynhelir yr arholiad lIafar fel rheol yn y Brifysgol, yn unol â Rheoliadau dyfarnu’r radd. Fodd bynnag, yn ôl disgresiwn yr Is-Ganghellor, ac o dan amgylchiadau arbennig yn unig, gellir cynnal yr arholiad lIafar mewn man arall.

Rhaid i’r canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad lIafar:

• Y Cadeirydd
• Yr Arholydd Mewnol
• Yr Arholydd AIIanol

(neu’r Cadeirydd, a dau Arholydd AIIanol yn achos ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff)

Gellir gwahodd arolygwr yr ymgeisydd i fynychu’r arholiad lIafar, os yw’r ymgeisydd yn cytuno, ond caiff siarad ar wahoddiad y Cadeirydd yn unig.

Mae tri amcan i arholiad lIafar:

1   galluogi’r Arholwyr i’w sicrhau eu hunain mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw’r traethawd;
2. rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd amddiffyn y traethawd ac i egluro unrhyw aneglurder ynddo;
3. galluogi’r Arholwyr i asesu gwybodaeth gyffredinol yr ymgeisydd am ei faes neu ei maes arbennig o ddysg.

Ni ddylai’r Bwrdd Arholi roi unrhyw arwydd i’r ymgeisydd o ganlyniad yr arholiad hyd nes bydd yr arholi wedi gorffen a’r holl adroddiadau wedi eu cwblhau.

Mewn achosion eithriadol, gall Bwrdd Graddau Ymchwil y Brifysgol, o gael rhybudd digonol, ystyried rhoi caniatad i arholiadau gael eu cynnal yn electronig. Cyhoeddir set o ganllawiau ar wahân ar gyfer y pwrpas hwn a gofynnir i Arholwyr ymgyfarwyddo â’u cynnwys os gofynnwyd iddynt gynnal arholiad lIafar yn y modd hwn. Gweler y Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau Viva Voce drwy Ddulliau Electronig yn y cyfeiriad yma

Yn yr arholiad lIafar, dylid cymryd gofal i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael eu hannog i deimlo’n gysurus er mwyn iddynt allu dangos eu gwybodaeth a’u gallu ar eu gorau, a dylid cydnabod ac ystyried cryfderau a gwendidau’r traethawd. Yn gynnar yn y broses, dylid rhoi’r cyfle i’r ymgeiswyr esbonio’n union yr hyn y bwriedir i’r traethawd ei gyflawni a lle y maent yn gweld ei arwyddocâd fel cyfraniad i wybodaeth. Os yw’n ymddangos bod gwahaniaeth mawr rhwng nodau’r ymgeisydd ac union gynnwys y traethawd, dylid trafod y rhesymau am y gwahaniaeth. Yn yr un modd, dylid gofyn i ymgeiswyr esbonio eu dewis o deitl pan yw’n ymddangos bod cyfatebiaeth amherffaith i gynnwys y traethawd. Hefyd dylid rhoi cyfle i ymgeiswyr esbonio unrhyw fethiant ymddangosiadol i ddefnyddio deunyddiau pwysig, boed yn rhai sylfaenol neu eilaidd, ac i esbonio unrhyw fethiant i fabwysiadu ymagwedd neu fethodoleg berthnasol.

Mae’n bwysig, lle bo diffygion sylweddol i’w gweld mewn traethawd, a allai arwain at adroddiad nad yw’n bendant yn ffafriol, fod sampl gynrychioladol o’r rhain yn cael ei dwyn i sylw’r ymgeisydd, a bod amser yn cael ei ganiatáu i esbonio ac amddiffyn yn ystod yr arholiad.

Mae’n bosibl i Arholwyr anghytuno i raddau mwy neu lai wrth werthuso’r gwaith. Mae, felly, yn ddoeth i arholwyr ymgynghori cyn yr arholiad lIafar er mwyn lIunio strategaeth, petai unrhyw wahaniaeth barn sylweddol yn codi, a fyddai’n datrys y gwahaniaethau hyn drwy ddull cytûn. (Gallai hyn gynnwys strwythuro’r arholiad lIafar yn ofalus). Er ei bod yn ddymunol i’r Arholwyr geisio datrys eu gwahaniaethau, petai’n amhosibl iddynt wneud, dylai Cadeirydd y Bwrdd roi gwybod am hyn i’r Gofrestrfa, ac ni ddylid gwneud argymhelliad am unrhyw ddyfarniad nac am beidio â dyfarnu. Yn yr amgylchiadau hyn, gellir galw ar Arholwr Dyfarnu Allanol ychwanegol, gweler nodyn Ng isod.

Mae’r arholiad lIafar yn rhan annatod o’r broses arholi ar gyfer gradd ymchwil, ac iddo’r amcanion penodol a nodir uchod, a gofynnir i Arholwyr wneud ymdrech i osgoi rhoi’r argraff ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad lIafar nad yw’r arholiad lIafar, mewn unrhyw fodd, yn fwy na ffurfioldeb

1. Y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd PhD

Gall gradd Doethur mewn Athroniaeth gael ei dyfarnu gan y Brifysgol i gydnabod y IIwyddwyd i gwblhau cynllun o waith astudio ac ymchwilio pellach y bernir bod ei ganlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol at ddysg ac yn rhoi tystiolaeth o astudio systematig ac o’r gallu i gysylltu canlyniadau astudiaeth o’r fath a’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y pwnc.

Wrth bwyso a mesur teilyngdod traethawd ymchwil a gyflwynir wrth ymgeisio am radd PhD, rhaid i’r Arholwyr gadw mewn cof safon a chwmpas y gwaith y mae’n rhesymol disgwyl i fyfyriwr galluog a diwyd ei gyflwyno ar ôl cyfnod oddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio amser-lIawn, neu gyfnod cyfatebol o astudio rhan-amser.

Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyrraedd Lefel D fel y’i diffinnir gan Framework for Higher Education Qualifications in England, Wales and Northern Ireland yr ASA.

2. Y meini prawf ar gyfer dyfarnu PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig

     Bydd y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig yr un fath a’r meini prawf a sefydlwyd ar gyfer Gradd PhD. Gellir diffinio gweithiau cyhoeddedig fel gweithiau sydd ar gael yn gyhoeddus neu sydd o leiaf wedi eu derbyn i gael eu cyhoeddi (ar yr amod y gall yr ymgeisydd roi prawf digonol bod hynny’n wir). Fel rheoI, ni ddylai gweithiau a gyflwynir i’w harholi fod wedi eu cyhoeddi fwy na deng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru.

     Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigon wedi cyrraedd Lefel D fel y’i diffinnir gan Framework for Higher Education Qualification in England, Wales and Northern Ireland yr ASA.

3. Y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd MPhil

Gall gradd Athro mewn Athroniaeth gael ei dyfarnu gan y Brifysgol i gydnabod y IIwyddwyd i gwblhau cwrs astudio ac ymchwilio pellach y bernir bod ei ganlyniadau yn arfarniad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth ac/neu yn gyfraniad gwreiddiol at wybodaeth.

Ar ôl cwblhau gradd MPhil, bydd graddedigion wedi cyrraedd Lefel M o leiaf, fel y’i diffinnir gan Framework for Higher Education Qualifications in England, Wales and Northern Ireland yr ASA