8. Canlyniadau’r Arholiad

Yn dilyn yr Arholiad Llafar:

Dylai’r Arholydd Allanol gwblhau Adran 1.2 (Adroddiad ar yr Arholiad Llafar), ac os yw’n briodol, Adran 1.3 (Materion O bryder neu ddiddordeb cyffredinol... .. ). Yna, mewn cydweithrediad a’r Arholydd Mewnol, dylai’r Arholydd Allanol gwblhau Adran 3 (Cyd-adroddiad gan yr Arholwyr Mewnol ac Allanol).

Yna dylai’r Arholwyr drefnu gyda Chadeirydd y Bwrdd Arholi eu bod yn cwblhau ac yn lIofnodi’r ffurflen derfynol, Argymhelliad Ffurfiol y Bwrdd Arholi ar Ganlyniad yr Adroddiad. Dylai’r canlyniad priodol gael ei nodi drwy dicio’r blwch perthnasol (gweler isod am nodiadau ar yr opsiynau gwahanol). Yna dylai’r Arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd lofnodi’r ffurflen gan nodi’r dyddiad. Atgoffir yr Arholwyr unwaith eto fod gan yr ymgeiswyr yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn.

Efallai yr hoffai aelodau Byrddau Arholi nodi’r sylwadau canlynol ar yr opsiynau gwahanol sy’n agored iddynt o dan y Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno ac Arholi Traethodau Ymchwil:

(a) dylid cymeradwyo’r ymgeisydd am y radd yn ddarostyngedig ar iddo neu iddi gwblhau’r cyfryw gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi.

Gellir pasio traethawd yn amodol ar gywiro mân wallau neu wallau teipio cyn adneuo’r gwaith yn y lIyfrgelloedd. Gallai’r cyfryw wallau, er enghraifft, gynnwys atalnodi gwael, camsillafu, brawddegau nad ydynt yn gwbl glir, graffiau, ffigurau neu ffotograffau wedi eu labelu’n wael, nad ydynt yn tynnu oddi wrth farn yr Arholwyr fod darn cadarn o waith wedi ei gyflwyno. Dylai fod yn bosibl cwblhau’r cywiriadau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan Gynullydd y Bwrdd Arholi. Sylwer y bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau’r cywiriadau o fewn y terfyn amser penodedig dalu’r tâl ailgyflwyno yn lIawn.

Rhaid i’r Bwrdd Arholi bennu y dylid bodloni’r naill Arholydd a/neu’r lIall fod y mân gywiriadau wedi eu cwblhau cyn i’r broses ddyfarnu gael ei dechrau ac arwyddo pa un ohonynt ddylai fod yn gyfrifol am gytuno bod cywiriadau wedi cael eu cwblhau’n foddhaol.

(b) y dylid cymeradwyo’r ymgeisydd am y radd yn ddarostyngedig ar iddo neu iddi gwblhau y cyfryw gywiriadau a newidiadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi.

Gellir pasio traethawd yn amodol ar gywiro mân wallau cyn adneuo’r gwaith yn y lIyfrgelloedd. Gallai’r cyfryw wallau, er enghraifft, gynnwys ailysgrifennu neu ailweithio brawddegau neu baragraffau nad ydynt yn tynnu oddi wrth farn yr Arholwyr fod darn cadarn o waith wedi ei gyflwyno ac sy’n bosibl eu cwblhau o fewn cyfnod hyd at chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan Gynullydd y Bwrdd Arholi. Sylwer y bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau’r cywiriadau o fewn y terfyn amser penodedig dalu’r tâl ailgyflwyno yn lIawn.

Rhaid i’r Bwrdd Arholi bennu y dylid bodloni’r naill Arholydd a/neu’r lIall fod y mân gywiriadau wedi eu cwblhau cyn i’r broses ddyfarnu gael ei dechrau ac arwyddo pa un ohonynt ddylai fod yn gyfrifol am gytuno bod cywiriadau wedi cael eu cwblhau’n foddhaol.

(c) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am y radd ond dylid canlatau iddo neu iddi ddiwygio’r traethawd a’i ailgyflwyno am y radd ar un achlysur arall drwy dalu tâl ailgyflwyno.

Os yw’r Arholwyr yn cytuno bod cynllun a chyflawniad yr ymchwil yn wallus a/neu os oes angen ail-weithio sylweddol ar y traethawd ei hun naill ai am resymau deallusol neu am rai’n ymwneud â’r cyflwyniad, gallant - ar yr amod y gallant weld peth tystiolaeth fod y ymgeisydd yn gallu gwneud yr addasiadau sy’n ofynnol (a all gymryd rhai misoedd o waith dyfal) - ganiatáu i’r ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith. Bydd y gwaith yn cael ei ailgyflwyno o fewn cyfnod nad yw’n fwy 12 mis o’r dyddiad pan roddir gwybod yn swyddogol i’r ymgeisydd o ganlyniad yr arholiad gan y Brifysgol.

Gallai’r diffygion gynnwys, er enghraifft, ddarnau annarllenadwy neu rai wedi eu dadlau’n wael, ffigurau, graffiau neu ffotograffau o safon isel, neu gamddehongli rhai data. Dylai’r Arholwyr fod yn fodlon fod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r hyn y mae’n ei wneud, fod y gwaith ar y cyfan yn ymdrin â’r problemau neu’r materion a godir, ond bod y modd y cyflawnir hyn yn y traethawd yn gofyn am addasu ar raddfa y gall yr awdur ei wneud mewn cyfnod o waith dyfal, di-dor.

Mae'n bosibl hefyd i'r Bwrdd Arholi argymell, yn achos canlyniad (c), gymeradwyo'r ymgeisydd am radd MPhil ar gyfer y traethawd yn ei ffurf bresennol, pe bai'r ymgeisydd yn methu ailgyflwyno'r traethawd ar gyfer PhD.

Mewn achosion o'r fath, rhaid bod y Bwrdd Arholi wedi'i fodloni'n llwyr fod y traethawd yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer dyfarnu MPhil yn amodol ar fân gywiriadau i'w cwblhau cyn y dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno. Os bydd y Bwrdd Arholi yn dewis yr argymhelliad hwn, rhaid i'r Cadeirydd sicrhau

  1. Fod y myfyriwr yn cael ei gynghori ynghylch y mân gywiriadau fydd angen eu gwneud;
  2. Fod y myfyriwr yn cwblhau'r cywiriadau hynny cyn y dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno;
  3. Fod y traethawd, fel arall, heb ei newid o'r arholiad gwreiddiol;
  4. Fod y myfyriwr yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Academaidd i ofyn am ddyfarnu MPhil; a
  5. Bod y traethawd yn cael ei labelu'n gywir fel MPhil ac yn cael ei gyflwyno yn y ffurf(iau) priodol i'r llyfrgelloedd a'r gadwrfa electronig

DS. Ni chaniateir yr opsiwn hwn mewn perthynas a gwaith sydd wedi ei ailgyflwyno.

Ar gyfer graddau doethur yn unig (heblaw PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig):

(d) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am radd PhD, ond y dylid ei gymeradwyo yn lle hynny am radd MPhil yn ddarostyngedig ar iddo neu iddi gwblhau’r cyfryw fân gywiriadau sy’n ofynnol gan y Bwrdd Arholi.

Gellir barnu bod traethawd, ar sail cwmpas, ymagwedd, cyflawniad, gwreiddioldeb ac ati, yn methu â chyrraedd y safon sy’n ofynnol i ddyfarnu gradd PhD, ond ei fod yn haeddu dyfarnu MPhil. Ni ellir dyfarnu gradd MPhil ond i ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno gwaith sy’n gyfartal â’r gwaith a wneir ar gwrs Athro estynedig ac sy’n cynnwys elfen sylweddol o ymchwil neu ymchwiliad cyfwerth. Wrth benderfynu a ddylid argymell y dylid dyfarnu MPhil i ymgeisydd, rhaid i’rArholwyr fod yn fodlon y bodlonwyd yn lIawn feini prawf y Brifysgol ar gyfer dyfarnu Gradd MPhil (gweler Adran F).

Cyhyd â bod y gofynion academaidd yn cael eu bodloni, gellir dyfarnu’r MPhil, yn amodol ar i fân wallau neu wallau teipio gael eu cywiro cyn i’r gwaith gael ei adneuo yn y lIyfrgelloedd. Gallau’r cyfryw wallau gynnwys, er enghraifft, atalnodi gwael, camsillafu, brawddegau nad ydynt yn gwbl eglur, graffiau, ffigurau neu ffotograffau wedi eu labelu’n wael, nad ydynt yn tynnu oddi wrth farn yr Arholwyr fod darn cadarn o waith wedi ei gyflwyno ac y gellir eu cwblhau o fewn cyfnod o bedair wythnos waith o ddyddiad yr hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan Gynullydd y Bwrdd Arholi. Sylwer y bydd gofyn i ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau’r cywiriadau o fewn y terfyn amser penodedig dalu’r tâl ailgyflwyno yn lIawn.

Rhaid i’r Bwrdd Arholi bennu y dylid bodloni’r naill Arholydd a/neu’r lIall fod y mân gywiriadau wedi eu cwblhau cyn i’r broses ddyfarnu gael ei dechrau ac arwyddo pa un ohonynt ddylai fod yn gyfrifol am gytuno bod cywiriadau wedi cael eu cwblhau’n foddhaol.

Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi sicrhau bod fersiwn terfynol y traethawd yn cael ei labelu'n gywir fel MPhil. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn achosion lle cyflwynwyd y traethawd yn wreiddiol i'w arholi fel PhD a'i labelu felly.

Ar gyfer graddau doethur (heblaw PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig) yn unig:

(e) na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am radd PhD, ond dylid caniatáu iddo neu iddi ddiwygio’r traethawd a’i ailgyflwyno am radd MPhil ar un achlysur arall, drwy dalu tâl arholi.

Gellir barnu bod traethawd yn methu â bodloni’r safon sy’n ofynnol ar gyfer dyfarnu gradd PhD, ond y dylid caniatáu i’r ymgeisydd ei addasu a’i ailgyflwyno am radd MPhil drwy dalu’r ffi lawn.

Os yw cynllun y chyflawniad yr ymchwil yn wallus a/neu os oes angen ail-weithio sylweddol ar y traethawd ei hun naill ai am resymau deallusol neu am rai’n ymwneud â’r cyflwyniad, gall yr Arholwyr - ar yr amod y gallant weld peth tystiolaeth fod yr ymgeisydd yn gallu gwneud yr addasiadau sy’n ofynnol (a all gymryd rhai misoedd, yn hytrach nag wythnosau, o waith dyfal) ganiatáu i’r ymgeisydd ailgyflwyno’r gwaith ar un achlysur arall yn unig o fewn un flwyddyn o ddyddiad hysbysiad swyddogol o ganlyniad yr arholiad i’r ymgeisydd gan y Brifysgol.

Dylai'r traethawd gael ei ail-labelu yn briodol fel traethawd MPhil pan gyflwynir ef i'w arholi ar gyfer y radd honno.

DS. Ni chaniateir yr opsiwn hwn mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei ailgyflwyno.

(f)   na ddylid cymeradwyo’r ymgeisydd am radd

Dylid barnu bod traethawd yn methu, heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ailgyflwyno am raddau PhD na MPhil, os yw cynllun a chyflawniad yr ymchwil yn wallus i’r fath raddau nad oes sail i’r Arholwyr gredu y gall yr ymgeisydd ei achub.