10. Anghytundeb

Os ceir anghydfod rhwng yr Arholwyr ynglŷn â chanlyniad yr arholiad, ni ddylid lIofnodi rhan Argymhelliad Ffurfiol y Bwrdd Arholi ar Ganlyniad yr Arholiad ond dylai’r Cadeirydd roi gwybod i’r Swyddfa Academaidd. Bydd y Swyddfa Academaidd yn cyhoeddi canllawiau a ffurflenni adroddiad i’w defnyddio gan Arholwyr Dyfarnu Allanol.

Mae’r adran ganlynol yn Rheol Sefydlog 20 yn gymwys ym mhob achos o’r fath:

45.  Lle y bo dadl yn codi rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholwr neu’r Arholwyr Mewnol, dylai’r Arholwyr a’r Cadeirydd farcio’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol er mwyn dangos na fu modd i’r Bwrdd gytuno ar argymhelliad.

Mewn achos o’r fath, mae o fewn pwer yr Is-Ganghellor i droi at Arholwr Allanol arall y gofynnir iddo neu iddi ddyfarnu.

Wrth ddewis Arholwr Dyfarnu Allanol, caiff yr Is-Ganghellor ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynir gan aelodau’r Bwrdd Arholi a chaiff hefyd ystyried unrhyw enwebiad a wneir gan y Bwrdd gwreiddiol - ond nid oes yn rhaid iddo neu iddi fod yn rhwym wrtho.

Pan benodir ef neu hi gan yr Is-Ganghellor, bydd yr Arholwr Dyfarnu Allanol yn cael oddi wrth y Gofrestrfa gopi o waith yr ymgeisydd ynghyd ag adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol a’r ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad’ a’r ‘Nodiadau ar gyfer Arholwyr Dyfarnu Allanol’.

          Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, gall Arholwr Dyfarnu Allanol ddewis cyfeirio at adroddiadau’r Arholwyr gwreiddiol neu beidio (ac, os felly, pryd y gallai wneud) Hefyd gall ddewis cynnal arholiad lIafar pellach ac, os cynhelir un, p’un a ellir gwahodd yr Arholwyr gwreiddioll fod yn bresennol ai peidio.

            Pan fo’r Arholwr Dyfarnu Allanol wedi gorffen ystyried y gwaith, dylid hysbysu Cadeirydd y Bwrdd Arholi am y canlyniad yn y lle cyntaf. Bydd y Cadeirydd yn trefnu bod y ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad’ yn cael ei lIenwi, ei lIofnodi a’i dychwelyd i’r Gofrestrfa