10.16 Penderfyniad yr Ymgeisydd

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi gwybod i’r Brifysgol sut yr hoffent barhau â’u cynnig naill ai drwy UCAS Track, yn achos ymgeiswyr UCAS, neu drwy gyflwyno eu Ffurflen Ymateb i Gynnig, i’r rhai sy’n gwneud cais uniongyrchol neu’n ymgeisio drwy Common Application.

1. Derbyn

Wrth dderbyn cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r ymgeiswyr yn cadarnhau:

  • eu bod yn derbyn telerau’r cynnig a wnaed iddynt;
  • eu bod yn cytuno y caiff y Brifysgol barhau i brosesu eu data ac
  • eu bod eisiau derbyn eu cynnig o le.

Ar y cam hwn, nid yw derbyn lle yn gadarnhad y bydd yr ymgeisydd yn cofrestru mewn gwirionedd. Gallant dynnu’n ôl neu ohirio yn ddiweddarach.

Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fodloni holl amodau eu cynnig cyn gallu cofrestru.

Mae’n rhaid i wladolion o’r tu allan i’r DU dalu blaendal ffioedd dysgu na chaiff ei ad-dalu oni bai eu bod wedi darparu tystiolaeth o nawdd i dalu’r ffioedd dysgu perthnasol, neu eu bod wedi’u heithrio am unrhyw reswm arall (gweler Atodiad 4).

Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr Dysgu o Bell ddarparu tystiolaeth y gallant dalu costau'r cwrs gan fod y rhan fwyaf ohonynt mewn cyflogaeth ac yn dewis talu fesul modiwl. Noddir rhai myfyrwyr gan eu cyflogwyr. Rhaid i bob ymgeisydd dysgu o bell dalu Ffi Gofrestru na ellir ei had-dalu.

Rhaid i ymgeiswyr sydd angen Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) er mwyn gwneud cais am Fisa Myfyriwr fodloni’r holl amodau sydd ynghlwm â’u cynnig cyn y gellir cyflwyno’r CAS. Pan fo’n berthnasol, bydd angen i’r Swyddfa Derbyn hefyd chwilio am dystiolaeth bod gan yr ymgeisydd gronfeydd digonol (ar eu cyfer eu hunain ac unrhyw ddibynyddion eraill y maent yn bwriadu dod gyda hwy i’r DU) yn eu cyfrif eu hunain ar gyfer y cyfnod gofynnol o 28 diwrnod, fel sy’n ofynnol gan UKVI.

2. Gohirio

1. Gall ymgeiswyr israddedigion wneud cais i ohirio dechrau eu hastudiaethau am un flwyddyn academaidd drwy gysylltu â’r Swyddfa Derbyn ar: ug-admissions@aber.ac.uk

2. Mae’n rhaid i bob cais i ohirio gael ei gymeradwyo gan y Brifysgol, a bydd y canlyniad yn cael ei gadarnhau i’r ymgeisydd gan y Swyddfa Derbyn.

3. Tynnu’n ôl

1. Gall ymgeiswyr sydd eisiau tynnu eu cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ôl wneud hynny drwy UCAS Track, neu, yn achos ymgeiswyr uniongyrchol, drwy roi gwybod i’r Swyddfa Derbyn Israddedigion ar: ug-admissions@aber.ac.uk

2. Ar ôl tynnu’n ôl, efallai y gofynnir i’r ymgeisydd gwblhau’r Arolwg perthnasol i rai sy’n tynnu’n ôl.