Y broses arholi

Diwygio traethodau a gyflwynwyd cyn y viva:

Ni chaiff ymgeiswyr ddiwygio traethawd, ychwanegu ato, na dileu ohono ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'w arholi. Ni chaniateir dychwelyd traethodau ymchwil a gyflwynwyd i’r ymgeiswyr i’w gwella cyn cwblhau trafodaethau ac argymhelliad ffurfiol y Bwrdd Arholi. Dylai gwaith na ellir ei basio fel y'i cyflwynwyd gael ei ailgyflwyno’n ffurfiol ar ffurf ddiwygiedig i'w ailarholi.

Gofynnir i’r arholwyr hysbysu Ysgol y Graddedigion ar unwaith os cânt draethodau drafft ‘ar gyfer sylwadau ac i’w dychwelyd’ cyn i’r broses arholi ffurfiol ddechrau. Dylent wrthod yn bendant unrhyw awgrym y dylid dychwelyd traethawd i ymgeisydd i’w wella a’i ailystyried cyn cwblhau trafodaethau ffurfiol y Bwrdd Arholi.

Arholiad Llafar (Cyflwyniad Cyntaf)

Mae arholiad llafar (‘viva voce’) yn orfodol a dylech fod ar gael i gael eich arholi fel hyn. Yn y Brifysgol y cynhelir arholiadau llafar fel arfer. Os cadarnhaodd y Bwrdd Arholi, yn dilyn y viva, fod angen ichi wneud naill ai Mân Gywiriadau (4 wythnos) neu Gywiriadau a diwygiadau (6 mis neu 3 mis gan ddibynnu ar y radd) i’ch traethawd a chael y rhain wedi’u cymeradwyo gan eich arholwyr cyn y gellir dyfarnu gradd, mae’n rhaid ichi fodloni'r terfynau amser hyn ynglŷn â’r cywiriadau.

Rhaid i Adrannau/Cyfadrannau roi gwybod i Ysgol y Graddedigion am unrhyw fyfyriwr nad yw wedi cwblhau'r cywiriadau o fewn yr amserlen ofynnol.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y cymeradwyir estyniadau i'r dyddiad cau ar gyfer cywiriadau a hynny pan fydd cais ffurfiol gyda thystiolaeth ategol wedi'i wneud i Ysgol y Graddedigion.

Arholiad Llafar (Ailarholi)

Os ceir ailarholiad, bydd angen arholiad llafar pellach fel arfer. Os felly, rhaid ichi fod ar gael i ddod i’r arholiad hwnnw a gynhelir fel arfer yn y Brifysgol.

Dim ond yn achos pàs clir neu amgylchiadau eithriadol eraill y caniateir hepgor y viva. Y disgwyl fel arfer yw bod rhaid cynnal y viva er mwyn rhoi cyfle i'r myfyriwr amddiffyn ei waith. Mae ailgyflwyno yn cael ei drin fel cyflwyniad cyntaf a rhaid cyflwyno pob dogfen eto gan gynnwys y ffurflen bwriadu cyflwyno.