Rhag-Gofrestru 2024/2025

Adran Hanes a Hanes Cymru

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd. 

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cyfun a phrif bwnc/is-bwnc yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru :

Cynhelir sesiynau cyngor rhag-cofrestru yn yr Adran ar dri diwrnod yn unig, dydd Llun 15 Ebrill - dydd Mercher 17 Ebrill.  Rhaid i chi gael eich dewisiadau wedi'u hawdurdodi gan eich tiwtor personol yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill  - dydd Gwener 26 Ebrill  (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.

Mae pob modiwl wedi'i gyfyngu'n electronig; felly mae'n bwysig eich bod yn cofrestru ar-lein cyn gynted â phosibl, gan fod lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun:

https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/History+and+Welsh+History/

RHAID i'ch dewisiadau personol gael eu cymeradwyo gan eich tiwtor personol cyn cofrestru ar-lein i sicrhau bod modiwlau craidd a nifer y credydau cywir yn cael eu cymryd - efallai na fydd y dewis o fodiwlau a gofnodwyd gan yr Adran ymlaen llaw yn gwarantu eich lle ar y modiwl. Caiff y system gofrestru ei gyfyngu’n electronig, felly os gwelwch fod y dewisiadau modiwlau yr oeddech chi eu heisiau yn llawn, cysylltwch â Dr Rhun Emlyn, rre@aber.ac.uk, Tiwtor Rhan Dau i drafod eich opsiynau.

Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, dylech gysylltu â:

Dr Rhun Emlyn     Ffôn: 622666                 E-bost: rre@aber.ac.uk
Glesni Davies        Ffôn: 621917                 E-bost: glr@aber.ac.uk

 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:

 

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd    
Ffôn: 628515/622787   
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk