Rhag-Gofrestru 2024/2025

Ysgol Fusnes Aberystwyth

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cynlluniau ar y cyd a chynlluniau Prif-Bwnc/Is-Bwnc yn yr Ysgol Fusnes.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Aberystwyth+Business+School/

Unwaith y byddwch wedi mewnbynnu eich dewisiadau modiwl ar-lein, dylech ymgynghori â Chydlynydd eich Cynllun Gradd fel a ganlyn:

Cyfrifeg a Chyllid a Cyllid Busnes – Sarah Lindop (sol) 622510
Economeg a Economeg Busnes – Maria Plotnikova (map26) 622507
Rheolaeth Busnes – Lyndon Murphy (lym18) 622508
Marchnata – Ian Harris (ihh) 622255
Twristiaeth – Mandy Talbot (atm13) 622974

Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl ar ôl i’r broses fynd yn fyw ar ddydd Iau 18 Ebrill 2024 a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Ysgol Fusnes, dylech gysylltu â:                                                 

Ian Williams           Ffôn: 622501/622500                    E-bost: business-school@aber.ac.uk

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd    
Ffôn: 628515/622787   
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk