Ffurflen Amgylchiadau Arbennig
Canllawiau
Nod y Brifysgol yw asesu ei myfyrwyr i gyd mewn modd cadarn ond teg, yn unol â'i rheoliadau a'i gweithdrefnau cymeradwy. Er hynny, mae'n dibynnu ar ei myfyrwyr i roi gwybod iddi am unrhyw amgylchiadau arbennig a allai effeithio ar eu perfformiad, fel y gallai sicrhau bod ei holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg. Dyma rai enghreifftiau o Amgylchiadau Arbennig (dim ond enghreifftiau yw'r rhain, nid rhestr gyflawn mohoni): salwch neu anabledd, yn dymor- hir neu'n dymor-byr, problemau ariannol difrifol, problemau difrifol â'ch llety, profedigaeth neu ryw amgylchiadau personol eraill.
Er mwyn eich lles eich hunan, rhowch wybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig cyn i ganlyniadau eich modiwlau gael eu cadarnhau: mae'r drefn apelio yn erbyn canlyniadau ar ôl iddynt gael eu cadarnhau yn cymryd amser hir, gan beri pryder diangen i chi, yn enwedig pan fydd problemau yn codi ynghylch nawdd, benthyciadau neu lety.
Os byddwch am roi gwybod i'r Brifysgol am amgylchiadau arbennig, llenwch y ffurflen amgaeedig a'i hanfon ymlaen at y bobl berthnasol ym mhob un adran lle'r ydych yn cymryd modiwlau, ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth. Cewch, os dymunwch, gyflwyno'r dystiolaeth mewn amlen dan sêl, wedi ei nodi'n 'gyfrinachol', ond dylech sicrhau bod eich enw llawn a'ch cyfeirnod myfyriwr ar yr amlen hefyd. Caiff y deunydd ei drin yn unol â Datganiad y Brifysgol ar Gyfrinachedd a bydd y Bwrdd Arholi yn ei ddefnyddio i gloriannu'r effaith ar eich perfformiad yn yr asesiadau perthnasol. Ni chaiff y wybodaeth ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Os cyflwynwch y wybodaeth honno ni fyddwch chi o dan unrhyw anfantais.
Sylwer bod y Brifysgol yn mynnu bod myfyrwyr yn rhoi gwybod iddi am amgylchiadau arbennig cyn gynted ag y gallent, a hynny cyn i'r canlyniadau gael eu cadarnhau. Ni fydd yn ystyried apeliadau ar sail amgylchiadau arbennig lle y gellid yn rhesymol fod wedi rhoi gwybod i'r adrannau cyn y Byrddau Arholi neu mewn achosion eithriadol lle nad yw'r dystiolaeth berthnasol ar gael tan ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.
LLwytho i lawr:
- Ffurflen Amgylchiadau Arbennig
(Ewch i'r Rhestr Staff i weld at bwy y dylech anfon hon).