Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Cefnogi myfyrwyr a graddedigion Aberystwyth ar bob cam o'u taith gyrfa.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion ar bob cam o'u taith gyrfa, o archwilio opsiynau a datblygu sgiliau, i ennill profiad a sicrhau cyflogaeth neu symud ymlaen i astudiaethau pellach. Gan weithio'n agos gyda chyflogwyr, adrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol, rydym yn creu cyfleoedd sy'n helpu myfyrwyr i lwyddo yn ystod eu hastudiaethau a thu hwnt.
Yn chwilio am wybodaeth sy’n berthnasol i chi? Dewiswch un o’r opsiynau uchod i archwilio’r ystod o gymorth ac adnoddau sydd ar gael. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni a bydd ein tîm yn hapus i'ch helpu.
