Graddedigion
Fel un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth gallwch barhau i gael mynediad i'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ar-lein ac wyneb yn wyneb, am hyd at 3 blynedd ar ôl dyddiad gorffen eich cwrs.
P'un ai eich bod yn chwilio am gyngor CV, hyfforddiant cyfweliad, neu fynediad at swyddi gwag, rydym yma i helpu. Edrychwch ar yr ystod lawn o wasanaethau sydd ar gael i chi yma.
Dyma 4 cam hawdd i helpu i roi hwb i'ch taith yrfaol ar ôl graddio a chael mynediad at ein cymorth i raddedigion:
1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif GyrfaoeddABER
2. Siaradwch â ni! Sut i gysylltu â ni a threfnu arweiniad gyrfaoedd
3. Cymorth gyda CV, gwneud ceisiadau a chyfweliadau
4. Cadw mewn cysylltiad! Rhowch hwb i'ch sgiliau rhwydweithio a'ch cyfleoedd am brofiad gwaith
Graduate Career Chats
Mae ein Sgyrsiau Gyrfa i Raddedigion yn gyfle i drafod eich cynlluniau, eich syniadau a’ch cwestiynau mewn mwy o fanylder gyda Chynghorydd Gyrfaoedd profiadol yn ystod sgwrs 30 munud pwrpasol.
Cyfleoedd i Raddedigion
Adnoddau a chyfleoedd wedi'u teilwra ar gyfer graddedigion, i'ch helpu i archwilio eich opsiynau a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Gweithdai a Digwyddiadau
Darganfyddwch weithdai, ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau i'ch helpu i archwilio cyfleoedd, datblygu sgiliau a chynllunio eich camau nesaf.
