Gwybodaeth i Fusnesau a Sefydliadau Allanol
Y Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) yw’r man canolog i ymholiadau oddi wrth unrhyw sefydliad sydd am ddysgu mwy am y cyfoeth o arbenigedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Trwy wrando ar anghenion eich sefydliad, gall ein tîm Datblygu Busnes weithio gyda chi i benderfynu pa gyfuniad o arbenigeddau’r Brifysgol allai fod o fudd i’ch busnes.
O Leoliadau Gwaith ac Ysgoloriaethau Ymchwil; Cyrsiau Hyfforddi a Datblygu Personol Parhaus; i Ymgynghori, Ymchwil ar y Cyd a Chyfleoedd Trwyddedu, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o Wasanaethau i Fusnesau.
Pa un a ydych eisoes wedi gweithio gydag Aberystwyth, neu os ydych yn ystyried defnyddio ein gwasanaethau am y tro cyntaf, bydd ein tîm yn falch o glywed oddi wrthych.
Rhwydwaith Busnes
Mae Rhwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfleoedd i fusnesau a’r proffesiynau gyfarfod â staff academaidd a masnachol y Brifysgol.
