Gwerthuso a Chyngor ar Eiddo Deallusol

Mae’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n gysylltiedig â rheoli Eiddo Deallusol y Brifysgol.

Mae cyfoeth o Eiddo Deallusol ledled y Brifysgol: patentau, hawlfreintiau, hawliau dylunio, hawliau cronfeydd data, hawliau bridio planhigion, a digonedd o wybodaeth ymarferol a grëwyd drwy ymchwil neu weithgarwch academaidd arall. Gallai llawer o’r Eiddo Deallusol hwn feddu ar botensial masnachol, boed yn gynhyrchion neu wasanaethau newydd, a swyddogaeth y tîm Trosglwyddo Technoleg yw canfod y potensial hwn a’i ddatblygu ar gyfer y farchnad.

Masnacheiddio’ch syniadau

A oes gennych chi ddull, microb neu ddangosydd afiechyd? Ydych chi wedi cael syniad arloesol, wedi datblygu offeryn, neu a oes gennych ffordd wahanol o wneud pethau yn eich maes ymchwil? Os felly, mae’n bosib bod gennych eiddo deallusol y gallem ni eich helpu i’w amddiffyn a’i fasnacheiddio. Argymhellwn eich bod yn cysylltu â’r tîm Trosglwyddo Technoleg cyn datgelu’r wybodaeth yn gyhoeddus mewn unrhyw fodd.   

 

 

Y Camau Nesaf

Contact UsMae staff Trosglwyddo Technoleg ar gael i gynnig arweiniad a chefnogaeth i gydweithwyr drwy Broses Datgelu Dyfeisiadau Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â chwilio am syniadau newydd, gall GMY gynnig cyngor i chi ar ffynonellau cyllid posibl i ddatblygu prosiectau cychwynnol sydd â photensial masnachol.

Ar gyfer trafodaeth anffurfiol a chyfrinachol un-wrth-un ynglŷn â’ch gwaith, cysylltwch â Dr James Hudson  / Dr  Rhian Hayward i drefnu cyfarfod.

Adnoddau ar gyfer Staff

Dr Rhian Hayward and Dr James Hudson with the new IP Guide 'Eiddo Deallusol a Masnacheiddio – Canllaw ar gyfer Academyddion’  - Mae’r canllaw hwn, a ddatblygwyd ar gyfer staff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig diffiniadau defnyddiol ac yn rhoi crynodeb o brosesau’r Brifysgol ynghyd â’r cymorth a gynigir i gydweithwyr drwy’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori. Ar gael i’w weld neu i’w lawrlwytho ar lein