Addysg Gychwynnol i Athrawon (Cynradd ac Uwchradd)

Gwnewch wahaniaeth... addysgwch!

Croeso i Addysg Gychwynnol i Athrawon (TAR) yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth. Gall myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon yn Aberystwyth ddewis dilyn cwrs TAR Cynradd gyda Chyfoethogi Uwchradd, neu TAR Uwchradd gyda Chyfoethogi Cynradd.

Dechreuwch eich gyrfa dysgu gyda chefnogaeth bwrsariaeth TAR werth hyd at £25,000.