Gwasanaethau Post

Mae'r Brifysgol yn darparu ystod eang o wasanaethau post i'r holl adrannau ac unedau. Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yn Ystafell Bost y Brifysgol ar Gampws Penglais. O'r ganolfan hon caiff holl bost allanol y Brifysgol ei brosesu a'i ddosbarthu. Mae'r gwasanaeth post mewnol hefyd yn gweithredu o'r Ystafell Bost.

Mae'r Ystafell Bost yn gweithredu fel adran wasanaeth, draddodiadol. Felly, caiff tâl ei godi am wasanaethau penodol, ond caiff y costau hyn eu talu gan yr adrannau fel rheol. Mae'r Brifysgol wedi gallu gwneud arbedion sylweddol ar gostau nifer o wasanaethau post a chaiff y gostyngiadau hyn eu pasio ymlaen i'r adrannau. Gall defnyddio gwasanaethau post y Brifysgol felly arbed arian i'ch adran. Bydd defnyddio amlen o'r maint mwyaf effeithlon yn sicrhau bod y costau'n aros yn isel.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y gwasanaethau post, cysylltwch â Ystafell Bost a post@aber.ac.uk‌ / 01970 622052.