Eisteddfod 2012

Dewch draw i’n stondin ni ar faes Eisteddfod Genedlaethol, Bro Morgannwg, dydd Sadwrn, 4ydd o Awst i ddydd Sadwrn 11eg o Awst 2012

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn denu dros 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol ac yn 2012 cynhelir yr Eisteddfod ar hen faes awyr Llandw ger y Bontfaen, rhwng 4ydd o Awst a’r 11eg o Awst.

Blas o’r hyn sydd i ddod

Unwaith eto eleni bydd gan Brifysgol Aberystwyth stondin llawn bwrlwm o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol yr wythnos;

Dydd Llun – 6ed Awst

2.30 Seliau Cymru a’r Mers yn yr Oesoedd Canol

 Dydd Mawrth – 7ed Awst

11.00         Canu pop a roc: Dylanwad Pantycelyn

2.00  Her Prifysgol Aberystwyth

 Dydd Mercher – 8fed Awst

12.00         Lawnsiad Yr Heriwr

2.00-4.00 Aduniad Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

 Dydd Iau – 9fed Awst

11.00 Arweinydd mewn byd newidiol?: Gweithgarwch newid hinsawdd Llywodraeth Cymru

12.00 Talwrn rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor

 Dydd Gwener, 10fed Awst

11.30        Her Gyfieithu 2012

2.00-4.00   Aduniad Ganol Haf

4.30  Cyhoeddu Enillydd y Beic

Gallwch edrych ar gopi cyflawn o Raglen Eisteddfod Genedlaethol 2012 yma am ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau.

 

UMCA - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

Eleni eto bydd gan UMCA gynrychiolaeth ar y stondin.

Bydd Aduniad Ganol Haf am 2pm-4pm dydd Gwener, 10fed o Awst yn gyfle i fyfyrwyr presennol ddod at ei gilydd. Bydd adloniant â lluniaeth ysgafn ar y stondin. Bydd cyfle hefyd i ddarpar-fyfyrwyr ddod i gwrdd myfyrwyr a staff presennol a gofyn cwestiynau am fywyd prifysgol.

Derbyniad i Alumni a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Eleni cynhelir aduniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr y Brifysgol (sy’n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a’r Brifysgol) am 2pm-4pm ddydd Mercher y 8fed o Awst.

Y siaradwr gwadd eleni fydd Dylan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gweithredu Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.  Darperir lluniaeth ysgafn a chewch gyfle i hel atgofion gyda hen ffrindiau. Croeso i bawb!

Cyfle i ennill beic gwerth £325

I nodi cynnwys Prifysgol Aberystwyth ar restr canolfannau ymarfer swyddogol i feicio mynydd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 rydym yn cynnal cystadleuaeth â beic mynydd Trek 3700 yn wobr. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud bydd ymweld â stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod ac ateb cwestiwn syml. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y stondin dydd Gwener y 10fed o Awst.

Syrffiwch y we yn rhad ac am ddim ar ein stondin trwy gydol yr wythnos! Bydd te a coffi ar gael, a byddwn yn derbyn rhoddion i elusen yr Is-Ganghellor,  sef Ffagl Gobaith am y lluniaeth.

Dewch draw am baned, ymunwch yn ein amryw o ddigwyddiadau neu dewch i roi eich traed i fyny a gwyliwch yr Eisteddfod yn fyw ar ein sgrin deledu.

Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl chi!