Gofod Ffydd Y Brifysgol

 Yn y Gofod Ffydd gall aelodau o gymuned ein Prifysgol weddïo, cwrdd ac ymlacio – i ddefnyddio’r gofod, ewch i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio. Isod ceir rhai Cwestiynau Cyffredin a fydd, gobeithio, o gymorth ichi.

Cwestiynau Cyffredin am y Gofod Ffydd 

Ymhle y mae’r Gofod Ffydd?

Mae’r Gofod Ffydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, i’r dde i Gaffi’r Piazza. Mae’r drws er mwyn cael mynediad iddo y tu allan i’r adeilad, ar yr ochr sy’n wynebu adeilad Undeb y Myfyrwyr.

Pwy sy’n cael defnyddio’r Gofod Ffydd?

Mae’r Gofod Ffydd ar gael i holl aelodau’r staff, myfyrwyr cofrestredig a chymdeithasau ffydd a gydnabyddir gan Undeb y Myfyrwyr. 

A ellir defnyddio’r Gofod Ffydd unrhyw bryd?

Mae'r Gofod Ffydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Rhwng 8yb-5yp gall aelodau o'n gymuned cael mynediad i'r gofod wrth roi ei cerdyn Aber ar y clo SALTO. Ar ol 5yp bydd gofyn i staff a myfyrwyr mynd i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio. Mae hyn oherwydd gyda'r nos mae'n fwy tebygol y bydd grwpiau/cymdeithasau yn defnyddio'r gofod ar gyfer cyfarfodydd a chymdeithasu.

Sut gallaf drefnu i ddefnyddio’r Gofod Ffydd?

Rhwng 8yb-5yp gall aelodau o'n gymuned cael mynediad i'r gofod wrth roi ei cerdyn Aber ar y clo SALTO. Ar ol 5yh, bydd angen i chi fynd i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio. 

Sut gallaf fynd i mewn i’r Gofod Ffydd?

I gael mynediad i'r Gofod Ffydd rhwng 8yb a 5yh bydd angen i chi roi eich cerdyn Aber ar y clo SALTO wrth fynd i mewn, ac eto wrth ymadael. Ar ol 5yh, bydd angen i chi fynd i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio. 

Pwy sy’n berchen ar y Gofod Ffydd?

Mae’r Gofod Ffydd yn eiddo i gymuned y Brifysgol ond mae’r defnydd ohono yn cael ei weinyddu gan y Staff Amrywioldeb a Chynhwysiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â cydraddoldeb@aber.ac.uk neu dej20@aber.ac.uk