Cynhyrchion mislif am ddim ym Mrifysgol Aberystwyth
Mae'r Prosiect Blwch Coch yn elusen gymunedol, sy'n mynd ati i gefnogi pobl ifanc yn ystod eu misglwyf trwy ddarparu blychau coch wedi'u llenwi â deunydd misglwyf am ddim i ysgolion a cholegau.
Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnal ymgyrch, ‘Helo Mislif’, lle gall myfyrwyr gael mynediad at gynhyrchion mislif ailddefnyddiadwy am ddim yn ol eu hangen ac sy’n gynhwysol i bob rhywedd. Gallwch ddysgu mwy yma https://www.umaber.co.uk/newidaber/ymgyrchoedd/helomislif/
Prosiect y Blwch Coch a Phrifysgol Aberystwyth
Rhoddodd y Brifysgol y priosect ar waith am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2019, a hyd y gwyddom, ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i wneud hynny.
Sefydlwyd y Prosiect Blwch Coch ym mis Mawrth 2017 gan dri ffrind a oedd am gynnig deunydd misglwyf i bobl ifanc yn eu hardal leol. Ar ôl darllen am ‘dlodi misglwyf‘ yn y newyddion, cawsant eu cynddeirogi gyda’r syniad bod pobl ifanc yn colli allan ar eu haddysg oherwydd na allent fforddio’r deunydd yr oedd eu hangen arnynt yn ystod eu misglwyf.
Fe aethont ati i weithredu a chysylltu â sawl ysgol uwchradd yn Portsmouth i ofyn a fyddent yn dymuno derbyn blwch o ddeunydd miglwyf oedd yn cael ei ail lenwi’n gyson. Yr adborth gan athrawon oedd bod hwn yn fater real a bod angen yr adnodd.
Ers hynny, mae'r prosiect wedi ehangu ac ennill statws ledled y DU gyfan gyda phob prosiect yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr angerddol.
Diolch yn fawr iawn i'r tîm cyfleusterau am sicrhau bod y prosiect hwn yn digwydd!
Cwestiynau Cyffredin: