Rhodd Goffa Mrs Foster Watson
Dyfernir Rhodd Goffa Mrs Foster Watson bob pum mlynedd i aelod o staff Prifysgol Aberystwyth am waith cyhoeddedig sydd yn ysgolheigaidd ac eto o ddiddordeb cyffredinol.
Ystyrier y llyfrau a gynigir gan banel o dri beirniad o fri, ac fe ddyfernir y wobr ar sail gwerth y llyfr fel cyfraniad i wybodaeth a’i ddiddordeb i’r darllenwr diwylliedig.
Cynigir Rhodd Goffa Mrs Foster Watson gan y Senedd nesaf yn 2023 am lyfr a gyhoeddwyd ers 01 Medi 2018, yn unol â’r rheolau perthnasol
Cyhoeddir gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais maes o law.
Dyfarnwyd y Rhodd Goffa yn y gorffennol i:
2018 |
Dr Martin Crampin, Dysgu Gydol Oes |
2013 |
Yr Athro Iwan Rhys Morus, Hanes a Hanes Cymru |
2008 |
Yr Athro Ken Booth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol |
2003 |
Yr Athro Damian Walford Davies, Saesneg a Ysgrifennu Creadigol |