Gorymdaith Swyddogion a Staff y Brifysgol

Bydd Arweinydd yn tywys yr Orymdaith Academaidd i'r llwyfan.  Ar ôl cyrraedd y llwyfan, bydd pawb yn aros ar eu traed nes derbyn gorchymyn i eistedd gan y Prif Arweinydd.  Ar ddiwedd y Seremoni, bydd y Prif Arweinydd yn dod i'r llwyfan i dywys Swyddogion y Brifysgol allan o'r neuadd oddi ar ochr chwith y llwyfan.  Bydd yr Orymdaith Academaidd yn dilyn eu Harweinydd allan o'r Neuadd oddi ar ochr dde y llwyfan.

Ffurflenni Archebu Gwisg Academaidd a Gorymdaith Academaidd

Os ydych am fod yn ran o'r Orymdaith Academaidd, cwblhewch y ffurflenni isod.  Dyddiad derbyn y ffurflenni yw Dydd Gwener 15 Mehefin 2012.  E-bostiwch nhw at: graduation.office@aber.ac.uk 

Bydd Seremonïau'r bore yn dechrau am 11 o'r gloch

Dyma'r amserlen:

  • 10.45am fan bellaf: Staff academaidd i ymgynnull yng nghaffi Canolfan y Celfyddydau
  • 10.55am: Yr orymdaith i sefyll fesul dau mewn rhes wrth ddrysau'r Neuadd Fawr
  • 10.59am: Yr orymdaith i gychwyn
  • 11.00am: Y seremoni'n dechrau
  • 12.15 - 12.30pm yn fras: Y seremoni'n gorffen
  • 12.30pm: Derbynwest, Cyntedd Uchaf Canolfan y Celfyddydau

Bydd Seremonïau'r prynhawn yn dechrau am 3 o'r gloch

Dyma'r amserlen:

  • 2.45pm fan bellaf: Staff academaidd i ymgynnull yng nghaffi Canolfan y Celfyddydau
  • 2.55pm: Yr orymdaith i sefyll fesul dau mewn rhes wrth ddrysau'r Neuadd Fawr
  • 2.59pm: Yr orymdaith i gychwyn
  • 3.00pm: Y seremoni'n dechrau
  • 4.15 - 4.30pm yn fras: Y seremoni'n gorffen
  • 4.30pm: Derbynwest, Cyntedd Uchaf Canolfan y Celfyddydau