Gwobrau pwysig i gyn fyfyriwr Aber am ymchwil fforest law

Jasper Kenter

Jasper Kenter

01 Gorffennaf 2011

Mae Jasper Kenter, cyn fyfyriwr o Aberystwyth wedi ennill dwy wobr Ewropeaidd fawreddog am ei waith ymchwil yn Ynysoedd Solomon, cadwyn o ynysoedd anghysbell yng Nghefnfor y De. Mae'r wobr gyntaf am ei waith - ' Dyfarniad sylw Ewropeaidd ar ymchwil myfyriwr' gan y Gymdeithas ar gyfer Bioleg Cadwriaethol, a’r ail gan y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Economeg Ecolegol am y papur ymchwil gorau gan fyfyriwr. Yn ddiweddar fe gyhoeddwyd papur Jasper ar werthfawrogi fforestydd glaw Ynysoedd Solomon hefyd,  yn y cyfnodolyn gwyddonol ‘Global Environmental Change’, sydd yn un o'r prif gyfnodolion ym maes astudiaethau amgylcheddol.

Graddiodd Jasper o Aberystwyth yn 2010 gyda gradd ddosbarth gyntaf mewn cadwraeth cefn gwlad. Ers hynny mae wedi dechrau PhD mewn economeg ecolegol a chynaliadwyedd amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberdeen. Mae ei ymchwil parhaus yn edrych ar pam mae natur yn bwysig i bobl, a'r manteision economaidd sy'n deillio o natur, megis dŵr glân, pridd iach, bwyd a deunyddiau adeiladu. Gyda chefnogaeth ei ddarlithwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), datblygodd Jasper ddull newydd ar gyfer sefydlu y manteision economaidd hynny.

"Mae ymchwil Jasper yn hynod arloesol," meddai'r Athro Martin Dieterich o Brifysgol Hohenheim  yn yr Almaen, Llywydd Ewropeaidd y Gymdeithas ar gyfer Bioleg  Gadwriaethol. "Mae i’r gwaith oblygiadau nodedig ar gyfer cadwraeth natur a datblygiad dynol Ynysoedd Solomon."

"Mae fforestydd glaw Ynysoedd Solomon yn un o'r lleoliadau gyda nifer uchaf o blanhigion ac anifeiliaid prin ac unigryw yn y byd, ond mae yna fygythiad iddynt yn sgil cwympo coed, mwyngloddio a chynnydd yn nhwf cnydau gwerth arian parod megis coco a phalmwydd olew ," eglura Jasper .

"Mae pobl leol yn meddu ar wybodaeth soffistigedig o'u hamgylchedd, ond ar yr un pryd maent yn cael eu herio gan y newidiadau niferus sydd yn digwydd. Er mwyn rheoli fforestydd mewn modd cynaliadwy mae angen prosiectau ymchwil a datblygu sy'n cynnwys pobl leol a pharchu diwylliant traddodiadol. Dyna beth wnaeth fy ymchwil i, ond mae'n dal yn eithriad  i ymchwilwyr gymryd yr ymagwedd hon ar gyfer astudiaethau economaidd ac ecolegol.”

"Mae'r dulliau mae Jasper wedi ddatblygu yn helpu i fynd i'r afael â llawer o broblemau mae ymchwilwyr yn wynebu wrth roi gwerth ar natur," meddai  Mike Christie darlithydd yn IBERS .
 "Mae nhw hefyd wedi darparu cipolwg defnyddiol iawn ar y manteision y mae pobl frodorol yr Ynysoedd Solomon yn gael oddi wrth y fforestydd lle maent yn byw. Mae'r wybodaeth hon wedi cael ei chyfieithu yn opsiynau rheoli a fydd gobeithio yn sicrhau defnydd cynaliadwy o’r fforest yn y dyfodol.
Yr hyn sy'n drawiadol iawn am ymchwil Jasper yw ei fod wedi ei wneud fel rhan o'i astudiaethau israddedig yma yn Aberystwyth ac iddo ennill y ddwy wobr mewn cystadleuaeth â myfyrwyr ôl-raddedig sy'n gallu treulio tair mlynedd ar eu prosiectau ymchwil. Mae'r ffaith ei fod wedi ennill y ddwy wobr o safbwynt cadwraeth natur ynogystal â chymdeithas economaidd yn dangos apêl eang ei ganfyddiadau. Rwy'n siwr nad rhain fydd y gwobrau olaf iddo ennill! "