Beth os wyf yn anhapus ynglŷn â’r modd yr ymdriniwyd â’m cais?
Mae’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan Adran 45 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i lunio gweithdrefn apelio i sicrhau bod modd i ymgeiswyr ofyn am adolygiad mewnol os nad ydynt yn fodlon â’r ffordd y gwnaeth yr awdurdod cyhoeddus ymdrin â’u cais.
Mathau o gwynion
Dyma rai rhesymau posibl dros fod yn anfodlon â’r driniaeth a gawsoch:
- Nid ymdriniwyd â’ch cais o fewn yr amserlen o 20 diwrnod gwaith
- Ni chawsoch yr holl wybodaeth y gofynnoch amdani
- Rydych yn teimlo bod eithriadau wedi cael eu defnyddio’n anghywir
- Rydych yn teimlo eu bod wedi codi ffi anghywir arnoch
Beth sy’n digwydd nesaf?
Pan ddaw eich cwyn i law cewch gydnabyddiaeth a rhyw syniad o bryd y dylech ddisgwyl cael ymateb.
Panel Adolygu
Bydd y panel adolygu yn cynnwys staff nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol i ryddhau gwybodaeth ai peidio. Bydd panel adolygu o’r fath fel rheol yn cynnwys tri aelod uwch o staff, bydd un ohonynt yn Ddirprwy Is-Ganghellor fel rheol.
Yr Adolygiad
Mae’n rhaid i’r adolygiad ddarparu dull teg a diduedd o adolygu’r penderfyniadau a wnaed wrth ystyried yn wreiddiol a ddylid rhyddhau gwybodaeth ai peidio.
Bydd yr holl adolygiadau mewnol yn ystyried y wybodaeth a ryddhawyd o’i gymharu â’r wybodaeth y gwnaethpwyd cais amdani ac yn gwneud adolygiad llawn o’r papurau a oedd yn gysylltiedig â’r cais gwreiddiol.
Efallai y bydd y panel adolygu yn trafod y penderfyniad gwreiddiol ag aelodau o staff a oedd yn rhan o’r cais, i ganfod sut y gwnaethpwyd y penderfyniad, a bydd yn edrych ar y dogfennau a gasglwyd neu a gadwyd i gefnogi’r penderfyniad hwn.
Bydd y panel adolygu mewnol yn trafod eu darganfyddiadau â’r Rheolwr Cofnodion, er mwyn sicrhau bod unrhyw brosesau mewnol a allai fod angen eu newid yn cael eu hadolygu’n llawn.
Ar ôl cwblhau’r adolygiad, cewch y manylion llawn am y canlyniad.
Amserlenni
Mae’n rhaid i adolygiadau mewnol gael eu cwblhau o fewn amserlen resymol. Yn unol ag argymhellion gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol, mae’r Brifysgol yn ceisio ymdrin ag ystyriaethau syml o fewn 3 wythnos i’r gŵyn, ac yn ceisio ymdrin ag adolygiadau mwy cymhleth, megis ailystyried prawf buddiannau’r cyhoedd, o fewn 6 wythnos i ddyddiad derbyn y gŵyn.
Os daw hi’n amlwg yn ystod unrhyw gam o’r adolygiad mewnol na fydd modd ei gyflawni erbyn y dyddiad a nodwyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi a bydd dyddiad cwblhau arall yn cael ei roi, a bydd yn rhaid i’r panel adolygu wneud pob ymdrech i gadw at y dyddiad hwn.
Canlyniad Adolygiad Mewnol
Mae dau ganlyniad posibl i adolygiad mewnol:
Naill ai
bod y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei gadarnhau
Neu
bod y gŵyn yn cael ei chadarnhau
Os bydd y gŵyn yn cael ei chadarnhau, bydd y panel yn rhoi gwybod i chi a chewch wybod pryd y bydd unrhyw wybodaeth (bellach) y gwnaethoch gais amdani yn cael ei darparu.
Os bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei gadarnhau, bydd y panel yn rhoi gwybod i chi am hynny hefyd.
Os ydych chi’n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych hawl i basio’r mater ymlaen i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: http://www.ico.gov.uk/complaints.aspx