Mynediad GG ar gyfer ymwelwyr
Croeso i’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG)
Rydym yn darparu mynediad i Lyfrgelloedd y Brifysgol, cyfleusterau e-bost a chyfrifiadurol i holl fyfyrwyr cofrestredig a staff Prifysgol Aberystwyth
Cynigir mynediad i rai neu bob un o adnoddau’r GG i ambell gategori arall o ddefnyddiwr, e.e. ymwelwyr, defnyddwyr sy’n gweithio ar brosiectau ar y cyd â’r Brifysgol neu gynrychiolwyr sy’n mynychu cynhadleddau neu ddigwyddiadau yn y Brifysgol.
Mae mynediad i’r holl gyfleusterau yn rhwym wrth Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn unol â pholisi’r Brifysgol.
Sut ydw i’n mynd ati i ddefnyddio cyfleusterau’r GG:
- Staff ymweld neu gysylltiol/ymchwilwyr (rhai nad ydynt yn aelodau staff PA)
- Myfyrwyr ar ymweliad
- Cyd-ddarllenwyr
- Mynychwyr cynadleddau/digwyddiadau
- Arholwyr Allanol
- Myfyrwyr y Brifysgol Agored
- Ymwelwyr