Mae pob cyfrif defnyddiwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys 2GB o ofod ar rwydwaith y Brifysgol i wneud copïau wrth gefn o ddogfennau, delweddau a ffeiliau eraill.
Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiaduron yn Ystafelloedd Cyfrifiadur y Brifysgol byddwch yn cael eich cysylltu yn awtomatig i’ch storfa ffeiliau – edrychwch am yr eicon Fy Storfa Ffeiliau ar y pendesg.
Gellir hefyd cael mynediad i’r storfa ffeiliau o unrhyw gyfrifiadur sydd wedi ei gysylltu â'r rhyngrwyd a gellir gweld cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn ein CHA.
Gwneir copïau wrth gefn o'r storfa ffeiliau hon yn rheolaidd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Os fydd eich ffeiliau yn mynd ar goll neu'n cael eu llygru efallai bydd hi'n bosib i ni eu hadfer. Os gwelwch yn dda gwelwch y dudalen hon am fanylion.
Os hoffech wneud copi wrth gefn o'ch storfa ffeiliau ar CD/DVD gallwn wneud hyn am dâl bychan. Os gwelwch yn dda cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid
Gellir cael gwybodaeth bellach ar eich Storfa Ffeiliau yn y Brifysgol a sut i’w defnyddio yn ein CHA.