Ffonau symudol
Band Eang Symudol a Thariffau :
Gall y Gwasanaethau Gwybodaeth roi ffonau symudol a band eang symudol i staff ac adrannau'r Brifysgol drwy gysylltiadau cystadleuol â chwmni Orange. Mae ffonau Smart sydd ar gael drwy'r contract yn gallu eich cysylltu ag Exchange er mwyn eich cydamseru â'ch e-bost calendr. Mae band eang symudiol yn golygu bod modd defnyddio gliniaduron â'r Rhyngrwyd pan nad ydych yn y swyddfa a phan fyddwch ymhell o rwydweithiau WI-FI (ar yr amod bod gwasanaeth 3G ar gael lle'r ydych chi).
- Gall y Gwasanaethau Gwybodaeth ddarparu'r ffonau symudol canlynol gyda chontract (yswiriant dewisol) a chymorth y Gwasanaethau Gwybodaeth er mwyn cysylltu ag Exchange :
- Nokia 2323- ffôn symudol sylfaenol
- HTC Desire
- HTC Touch Pro 2 - ffôn Smart symudol cyflawn gyda bysellfwrdd QWERTY sy'n eich cysylltu â Microsoft Exchange.
- Apple iPhone
- Contract SIM yn unig - i'r rheiny sydd eisoes â ffôn symudol
- Band eang USB - i'r rheiny y mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r rhyngrwyd o'u gliniaduron pan nad ydynt yn y swyddfa neu wrth iddynt deithio.
Am ragor o wybodaeth am ffonau symudol, band eang symudol a thariffau
Sut mae cysylltu'ch Ffôn Smart Symudol Windows ag Exchange
I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu ffonau symudol / band eang symudol, cysylltwch â ni.