System deleffon Prifysgol Aberystwyth

Ers mis Chwefror 2008, y Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n gyfrifol am system ffôn y Brifysgol.

Roedd hyn yn fan cychwyn ar brosiect i symud holl wasanaeth ffôn y Brifysgol i wasanaeth Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd (VOIP)

Dyma rai o fanteision y VOIP:

  • mae’n gost effeithiol  - gydag unrhyw arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi i wella’r gwasanaeth
  • mae’n darparu adnoddau ychwanegol, er enghraifft adnabod y galwr, galwadau a fethwyd
  • gwasanaeth Estyniadau Symudol – gallwch fewngofnodi i unrhyw ffôn VOIP a defnyddio eich estyniad ffôn
  • gyda’r feddalwedd iawn gall eich cyfrifiadur weithredu fel ffôn er mwyn i chi allu defnyddio eich estyniad ffôn ar y campws neu oddi arno. (Mwy o wybodaeth)
  • mae'n darparu Lleisbost gan ddefnyddio Microsoft Exchange i anfon negeseuon lleisbost fel e-byst i’ch Mewnflwch (Mwy o wybodaeth)

Ceir gwybodaeth ar sut i ddefnyddio ffonau VOIP yn ein tudalennau CHA ar VOIP