Ffonau Meddal
Rhaglen feddalwedd yw ffôn meddal sy’n eich galluogi i ddefnyddio eich cyfrifiadur a chyswllt rhyngrwyd i wneud galwadau ffôn yn hytrach na defnyddio set llaw a llinell ffôn arferol.
Mae’r manteision fel a ganlyn:
- Symudedd
Cyhyd â bod gennych gyfrifiadur gyda’r meddalwedd angenrheidiol a chysylltiad â rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu oddi ar y campws gan ddefnyddio VPN) gallwch wneud a derbyn galwadau fel petaech yn eich swyddfa. - Cost
Mae defnyddio cysylltiad rhwydwaith i wneud galwadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith pan i ffwrdd o’r campws yn arbed arian ar filiau ffonau symudol a ffonau cartref - Cyfforddusrwydd
Mae defnyddio clustffon gyda meicroffon yn rhyddhau eich dwylo i ddefnyddio’r cyfrifiadur wrth siarad a gwrando
Mae ffonau medal ar gael:
- i aelodau staff PA sydd wedi eu cofrestru i ddefnyddio ffôn VOIP
- gellir prynu trwydded i ddefnyddio’r feddalwedd - gellir prynu’r rhain trwy anfon archeb adrannol at swyddfa Cyfryngau a Gwerthiannau - dataprep@aber.ac.uk (01970 62) 2485
Gellir gweld cyfarwyddiadau ar sut i osod a defnyddio ffonau meddal yn ein CHA ar ffonau meddal