Benthyca o’r Llyfrgell
Mae'r nifer o eitemau y cewch eu benthyg o'r llyfrgell yn dibynnu ar eich statws fel defnyddiwr:
| Defnyddiwr | Nifer o Eitemau |
|---|---|
| Israddedigion (gan gynnwys myfyrwyr Iaith a Dysgu) | 15 o eitemau |
| Uwchraddedigion (dysgu drwy gwrs) | 25 o eitemau |
| Uwchraddedigion (ymchwil) | 40 o eitemau |
| Staff | 60 o eitemau |
| Myfyrwyr Dysgu o Bell | 15 o eitemau (benthyciadau safonol yn unig) |
| Myfyrwyr Addysg a Dysgu Gydol Oes | 15 o eitemau (benthyciadau safonol & 3 dydd) |
| Defnyddwyr allanol | 10 o eitemau (benthyciadau safonol yn unig) |
| Defnyddwyr Sconul | 10 o eitemau (benthyciadau safonol yn unig) |
|
Cynllun Benthyca Aberystwyth /Bangor |
10 o eitemau (benthyciadau safonol yn unig) |
|
Cynllun Benthyca GO Wales |
10 o eitemau (benthyciadau safonol yn unig) |
Benthyg eitemau
Cewch fenthyg eitemau o Lyfrgelloedd Aberystwyth drwy ddefnyddio'ch Cerdyn Aber. Cewch ddefnyddio'r peiriannau hunan fenthyca, sydd i'w cael ym mhob llyfrgell, neu fynd i'r ddesg fenthyca. Mae'r peiriannau hunan fenthyca yn gyflym a hawdd eu defnyddio; mae'r cyfarwyddiadau llawn ar gael wrth ochr pob peiriant; bydd angen eich Cerdyn Aber a'ch rhif adnabod personol.
Mae trefniadau benthyg arbennig i fyfyrwyr Dysgu o Bell a myfyrwyr TAR sydd ar leoliadau.
Cyfnodau benthyg
| Math o Fenthyciad neu Gasgliad | Cyfnod Benthyg | Disgrifiad | Oes modd Benthyg yn ystod Gwyliau? | Oes modd Adnewyddu? | Oes modd Rhoi ar Gadw? |
|---|---|---|---|---|---|
| Benthyciad Safonol | 14 diwrnod *gweler y nodyn |
Oes | Oes | Oes | |
| Fideos | 1 diwrnod | Streipen las ar y meingefn a label dyddiadau las | Nac oes | Nac oes | Nac oes |
| Cyfnodolion | Dim modd eu Benthyg | - | - | - | |
| Benthyciad Tridiau (gan gynnwys disgiau DVD) | 3 diwrnod | Streipen goch ar y meingefn a label dyddiadau binc | Oes | Oes, ond dim ond pedair gwaith | Oes |
| Casgliad Benthyciadau Byr (Llyfrau) | 10 awr | Streipen felen ar y meingefn a label dyddiadau felen | Nac oes | Nac oes | Nac oes |
| Casgliad Dysgu o Bell | 4 wythnos is fyfyrwyr dysgu o bell, 1 diwrnod i bob defnyddiwr arall | Streipen werdd ar y meingefn | Nag oes | Oes | Oes |
| Traethodau hir | Dim modd eu benthyg | Dim ond i'w darllen yn y man Benthyciadau Byr | Nac oes | ||
| Casgliad Cyfeirio Cyflym | Dim modd eu benthyg | Streipen felen ar y meingefn | - | - | Nac oes |
*SYLWER bod gan staff ac uwchraddedigion ymchwil gyfnod benthyg safonol hirach o 6 mis, ond mae modd galw'r eitemau yn ôl. Mae hyn yn golygu os bydd defnyddiwr arall yn gwneud cais, fe fydd y dyddiad dychwelyd yn newid ac fe fydd angen iddynt ddychwelyd yr eitem ymhen y pedwar diwrnod nesaf. Anfonir ebost i ddweud wrthych fod hyn wedi digwydd a bod angen i chi ddychwelyd yr eitem erbyn y dyddiad newydd. Mae'r dirwyon yn uwch ar eitemau a alwyd yn ôl ond sydd heb gael eu dychwelyd erbyn y dyddiad dychwelyd newydd - gweler Dirwyon
Adnewyddu benthyciadau
Cewch adnewyddu'ch llyfrau:
- ar y we drwy gatalog gatalog y Llyfrgell - Primo : ceir manylion llawn yma
- drwy'r peiriannau hunan-fenthyca - mae cyfarwyddiadau ar gael wrth ochr y peiriant. Bydd angen eich Cerdyn Aber a'ch rhif adnabod personol ar gyfer y Llyfrgell
- wrth y ddesg fenthyca
Os ydych am adnewyddu eitemau, bydd yn rhaid sicrhau nad oes gennych ddirwyon heb eu talu na eitemau hwyr heb eu dychwelyd.
Os bydd defnyddiwr arall wedi rhoi eitem ar gadw, ni fydd modd i chi ei hadnewyddu ac os na fyddwch yn ei dychwelyd yn brydlon bydd rhaid talu dirwy uwch - gweler gwybodaeth am ddirwyon
Dychwelyd benthyciadau
Mae'n rhaid dychwelyd eich eitemau i'r llyfrgell lle y cawsoch nhw ar fenthyg.
- Llyfrgell Hugh Owen - Os gwelwch yn dda defnyddiwch y peiriant Dychwelyd Llyfrau ar Lefel D. Gallwch ddefnyddio hwn i ddychwelyd eitemau a gafodd eu benthyg o Lyfrgell Hugh Owen, ag eithrio fideos (dylid dychwelyd y rhain i’r Ddesg). Pan fydd y llyfrgell ar gau, os gwelwch yn dda defnyddiwch y Blwch Dychwelyd Llyfrau sydd y tu allan i fynedfa’r llyfrgell.
- Llyfrgelloedd eraill - rhowch eitemau i'r staff wrth y Ddesg Fenthyca.
- Os nad oes modd dychwelyd eich llyfrau yn bersonol i'r llyfrgell, cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd.
Rhoi Eitemau ar Gadw
Os oes angen eitem arnoch chi ond mae hi eisoes allan ar fenthyg, cewch ei rhoi ar gadw, ac wedyn ar ôl iddi gael ei dychwelyd, y bydd yn cael ei chadw wrth y Ddesg Fenthyca i chi ddod i'w nôl am dridiau. Cewch neges ebost i roi gwybod i chi fod yr eitem yn aros amdanoch.
Cewch weld y cyfarwyddiadau ar sut i roi eitemau ar gadw yma
Cewch weld beth yw hynt yr eitemau rydych wedi'u rhoi ar gadw drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif yng Nghatalog y Llyfrgell - Primo.
Dirwyon
Codir dirwy os na fyddwch yn dychwelyd yr eitemau sydd gennych ar fenthyg o'r llyfrgell erbyn y dyddiad perthnasol. Am fanylion llawn am ddirwyon a sut i'w talu, gweler y tudalen hwn
Colli neu ddifrodi eitemau
- Os collwch eitem sydd i fod gennych ar fenthyg, rhowch wybod i staff y Ddesg Ymholiadau Benthyg cyn gynted ag y bo modd.
- Bydd y costau a godir yn cynnwys £5.00 am bob llyfr i dalu am y costau gweinyddu a phrosesu y bydd y Llyfrgell yn gorfod eu talu, yn ogystal â chost prynu copi arall o'r llyfr. *uchafswm o £25 o dâl gweinyddol yr anfoneb.
- Byddwch hefyd yn dal i orfod talu unrhyw ffioedd os yw'r eitemau yn hwyr.
- Anfonir y cwsmer ar ôl iddynt dderbyn 5 llythyr yn eu hatgoffa i ddychwelyd yr eitem(au).
- Ar ôl cael archeb am y costau hyn, ni chewch fenthyg llyfrau eraill nes eich bod chi wedi ei thalu.
- Unwaith y bydd anfoneb wedi'i chodi mae'n cyfrif fel dyled i'r Brifysgol, ac mae'n rhaid ei thalu'n llwyr cyn bod modd i chi symud ymlaen i flwyddyn nesaf eich cwrs, neu raddio.
- Os dewch o hyd i'r llyfr wedyn a'i ddychwelyd i'r llyfrgell, fe gewch gost prynu'r llyfr yn ôl (ond ni thelir y ffi weinyddu yn ôl i chi *), a byddwch yn dal i orfod talu unrhyw ffioedd os yw'r eitemau yn hwyr.
* Mae'r Ffi Weinyddol yn cynnwys y gwaith a achoswyd i'r Llyfrgell, sef:
- Codi anfoneb
- Diweddaru cofnod llyfrgell y cwsmer ac ychwanegu nodyn at gofnod y cwsmer
- Ymdrin â nifer fawr o ymholiadau ac, os dychwelir yr eitemau, rhoi nodion credyd. Cysylltu â'r Swyddfa Gyllid fel y bo'n briodol.
- Os na ddychwelir yr eitemau:
- Archebu llyfr newydd
- Prosesu'r llyfr newydd