Digideiddio
Gall y Gwasanaethau Gwybodaeth ddarparu copïau wedi’u digido o eitemau ar restrau darllen modiwlau, yn amodol ar gliriad hawlfraint, cyfyngiadau trwydded a chronfeydd canolfannau cost. Gall y rhain fod ar gael i’r myfyrwyr wedyn trwy
Manteision
Mae sicrhau bod eitemau ar gael yn fwy eang fel hyn yn golygu
- y gall myfyrwyr ddefnyddio’r eitem/au y tu allan i oriau agor y llyfrgell
- y gall dysgwyr o bell a defnyddwyr eraill nad ydynt ar y campws ddefnyddio’r eitemau o le bynnag y maent
- lleihad o ran pwysau ar y stoc benthyca
- lleihad yn y broblem o golli/camosod eitemau
- y gallwn sicrhau ein bod yn glynu at y ddeddfwriaeth hawlfraint
Costau
Mae’r costau yn amrywio yn ôl argaeledd yr eitem:
- Eitemau sydd ar gael yn un o lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth (mewn print yn unig). Gall y rhain gael eu digido yn ôl trwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) gan staff y llyfrgell, yn amodol ar gyfyngiadau, hawlfraint a thrwyddedu. Mae’r prisiau yn cychwyn ar £19.22 yr eitem. Byddwn yn gwirio i weld a fyddai tanysgrifio i e-lyfr neu e-gyfnodolyn yn fwy darbodus. Ceir rhagor o fanylion am drwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) yma
- Eitemau sydd ar gael yn y Llyfrgell Brydeinig (deunydd printiedig yn unig)
O dan amodau ein trwydded Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint gallwn gyrchu copïau PDF o eitemau nad ydynt ar gael yn ein llyfrgelloedd ein hunain, cyhyd â’u bod ar gael yn y Llyfrgell Brydeinig. Mae’r prisiau yn amrywio gan ddibynnu ar ffi hawlfraint yr eitem. Edrychir i weld os yw tanysgrifiad i e-lyfr neu e-gyfnodolyn yn fwy darbodus. - Eitemau nad oes modd eu digido yn ôl trwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA)
Bydd y rhain yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Digideiddio HERON
Argaeledd
Mae’r argaeledd yn amrywio yn ôl o ble y daw’r eitem:
- Gall eitemau sy’n cael eu digido yn ôl trwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) fod ar gael fel rheol ymhen pedair wythnos a gellir eu hadnewyddu yn flynyddol. Mae’n costio £10 yr eitem i’w hadnewyddu. Mae’n rhaid rhoi pedair wythnos o rybudd. Bydd staff y llyfrgell bob amser yn chwilio am y dewis sy’n rhoi’r gwerth gorau.
- Gall copïau HERON gymryd rhwng 3 wythnos a 2 fis a mwy i fod ar gael ac fel rheol maent yn ddrutach.
Gwneud ceisiadau
I wneud cais am gopi wedi’i ddigido e-bostiwch clastaff@aber.ac.uk gan nodi:
- rhif y modiwl
- manylion llawn yr eitem sydd i'w ddigideiddio gan gynnwys y rhifyn a rhifau’r tudalennau
- nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y modiwl
Gofynnwn i chi roi o leiaf pedair wythnos o rybudd os yw’n bosibl
Rhoi deunydd ar gael drwy Blackboard
Pan fydd deunydd wedi’i ddigideiddio fe ellir ei roi ar gael i fyfyrwyr drwy Blackboard. Mae tîm digideiddio’r llyfrgell yn gallu llwytho’r deunydd i Blackboard, ond cyfrifoldeb yr aelod o staff ei hun yw trefnu bod y myfyrwyr yn cael yr hawl i’w gweld. Sylwer nad Tîm Blackboard sy’n trefnu hyn. Mae dwy ffordd o drefnu bod myfyrwyr yn cael defnyddio’r deunydd:
-
Drwy ychwanegu’r enw cofnodi clastaff fel Adeiladwr Cwrs i’r modiwlau perthnasol gan ddefnyddio Panel Rheoli Blackboard (gweler http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/cymraeg/faq/594#add-users am ragor o fanylion).
-
Drwy drefnu bod clastaff yn cael hawliau Adeiladwr Cwrs drwy’r cofnod ar y gronfa ddata o fodiwlau (cysylltwch â gweinyddwr y gronfa ddata adrannol briodol - http://www.inf.aber.ac.uk/advisory/faq/619 )
Os oes angen rhagor o wybodaeth am roi deunydd ar gael ar Blackboard, cysylltwch â Thîm Blackboard ( bb-team@aber.ac.uk ).