Trwydded CLA

Mae gan staff y llyfrgell hawl i sganio a digideiddio eitemau yn llyfrgelloedd y Brifysgol yn unol â thelerau Trwydded Sylfaenol yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) ac UUK / Guild HE ar gyfer llungopïo a sganio.

Dyma rai manylion am drwydded yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint:

  • mae’n caniatáu i greu copïau digidol o ddeunyddiau gwreiddiol sy’n eiddo i’r Brifysgol, neu o gopi o bennod neu erthygl y talwyd ffi hawlfraint ar ei chyfer ac a gyflenwir gan sefydliad sydd â thrwydded dosbarthu dogfennau gyda CLA e.e. y Llyfrgell Brydeinig
  • mae’n caniatáu llungopïo a sganio hyd at 10% neu un bennod o lyfr neu un erthygl mewn cyfnodolyn (pa un bynnag yw’r mwyaf)
  • mae’n caniatáu sganio eitemau fel eu bod ar gael i fyfyrwyr ar gwrs astudio
  • mae’n caniatáu sganio at ddibenion addysgol yn unig
  • nid yw’n caniatáu sganio dogfennau cyfan neu ddefnyddio’r copïau at ddefnydd masnachol pellach (ni fwriedir i’r copïau sydd wedi’u sganio gael eu defnyddio yn hytrach na phrynu copïau gwreiddiol)
  • mae’n ymdrin â chyhoeddiadau’r DU a UDA (a rhai Thiriogaethau Rhyngwladol eraill) yn unig – ceir rhestr o eithriadau pellach o https://www.cla.co.uk/excluded-works

Diweddariad COVID-19

Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (Copyright Licensing Agency/CLA) wedi diwygio telerau ei Thrwydded Addysg Uwch dros dro. Byddwn yn gallu sganio mwy o gynnwys o lyfrau printiedig gan roi mwy o fynediad i fyfyrwyr at adnoddau dysgu ar-lein tan 31 Gorffennaf 2021.

Y prif newid yw:

  • Mae'r terfyn maint ar gyfer sganio o lyfrau print yn cael ei gynyddu i 20% neu ddwy bennod, p'un bynnag yw'r mwyaf, o'i gymharu â'r 10% neu'r 1 bennod arferol.

Mae hyn yn berthnasol i:

Sylwch ar y canlynol:

  • Mae'r caniatâd estynedig yn un dros dro, a bydd yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2021, ac ar ôl hynny bydd y drwydded yn dychwelyd i'r terfyn maint safonol o 10% neu un bennod
  • Rhaid dileu'r holl ddarnau a lanlwythwyd (h.y. yr ail bennod) o dan y ddarpariaeth arbennig hon erbyn 31 Gorffennaf 2021.

Sylwch: os ydych am ddefnyddio'r estyniad o 20%, rhaid nodi'r penodau ar wahân yn eich rhestr Aspire.

Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn drwy fynd i'r Cwestiwn a Holir yn aml: https://faqs.aber.ac.uk/3012