Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i'r Blog Diweddariadau Gwasanaethau GG
Ffeithluniau cryno SgiliauAber
26/04/2024
Traethodau. Adroddiadau. Cyflwyniadau. Posteri academaidd. Cymryd nodiadau. Geiriau tasg.
- Eisiau deall beth mae aseiniad yn gofyn i chi ei wneud?
- Angen gwybod beth mae gair tasg penodol yn ei olygu?
- Chwilio am arweiniad a deunydd ar sut i ysgrifennu eich aseiniadau?
Mae yna gyfres newydd o ffeithluniau cryno ‘Sut i ysgrifennu…’ ar gael yn SgiliauAber:
Lefel E ar ei newydd wedd
24/04/2024
Yr haf hwn, bydd newidiadau ar Lefel E (ail lawr) Llyfrgell Hugh Owen.
Byddwn yn symud rhai mannau i staff a myfyrwyr o gwmpas i greu gofod mwy i fyfyrwyr ac i greu rhagor o fannau astudio yng nghornel de-orllewinol y Llyfrgell. Bydd gan yr ardal astudio newydd olygfeydd dros y dref i’r môr ac yn cynnwys 6 ystafell astudio grwp newydd.
Am ragor o fanylion ar y newidiadau, gan gynnwys y dyddiadau allweddol a mapiau o'r ardaloedd a fydd yn newid, ewch i'n tudalen Newidiadau Lefel E
Defnyddio ystafelloedd astudio'r llyfrgell
12/04/2024
Rydyn ni'n gwybod ei bod yn boen os ydych chi am ddefnyddio ystafell astudio llyfrgell ond maen nhw i gyd wedi archebu.
Mae’n fwy o boen fyth os yw'r ystafell wedi'i harchebu, ond does neb yn ei defnyddio.
Cofiwch ganslo eich ystafell os nad oes ei hangen arnoch mwyach – e-bostiwch gg@aber.ac.uk – a byddwn yn rhyddhau'r ystafell ar gyfer myfyrwyr eraill.
Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol
22/04/2024
Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) mewn saith maes.
Darllenwch y blogbost hyn am wybodaeth pellach.
Siaradwyr Gwadd: Lansiad Llyfr Pedagodzilla ac Ymosodiad Pod
23/04/2024
Mae'n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwyr Gwadd nesaf ar 2 a 3 Mai 2024.
Bydd Pedagodzilla yn ymuno â ni ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau dros y 2 ddiwrnod. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, gweler ein blog.
Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr
23/04/2024
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr deuddegfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.
Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 10 a dydd Iau 12 Medi 2024.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Gweithdy DA SgiliauAber
22/04/2024
Eisiau dysgu mwy am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (DA/AI) yn gyfrifol yn eich astudiaethau?
Ymunwch â’r sesiwn ar-lein ddydd Mercher, 24 Ebrill, 13:00-13:30.
Mae’r ddolen i ymuno â'r sesiwn Gymraeg ar gael ar SgiliauAber: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/
SgiliauAber
19/04/2024
Eisiau gwybod pa sgiliau academaidd sydd gennych chi?
Eisiau gwella eich sgiliau academaidd?
Chwilio am arweiniad ac adnoddau ar ddatblygu eich sgiliau academaidd?
SgiliauAber yw'r lle i fynd!
Ebrill 2024 Diweddariad Blackboard Learn Ultra
16/04/2024
Ebrill 2024 Diweddariad Blackboard Learn Ultra
Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Tachwedd:
- Negeseuon dienw ar gyfer trafodaethau
- Gwelliannau i adborth a chyfrifiadau Llyfr Graddau
Am fwy o fanylion, darllenwch ein blog: Ebrill 2024 Diweddariad Blackboard Learn Ultra
Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion: Wythnos 8
04/04/2024
Mae’r proffil olaf yn ein cyfres sgiliau digidol yma! Darganfyddwch sut mae meistroli Cysill a Cysgeir tra ym MhA wedi cefnogi taith broffesiynol Manon. Byddwn yn dychwelyd ym mis Hydref ’24 gyda chyfres newydd o broffiliau cyflogwyr! ??
?? Darllenwch eu proffil yma: https://wordpress.aber.ac.uk/digital-capabilities/cy/?p=2961
Dechrau pennod newydd - Dysgwch mawr am apiau i helpu eich arferion darllen
23/02/2024
?? Darllenwch ein blogbost am fwy o wybodaeth: Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen ?? | (aber.ac.uk)
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk