Argraffu a Llungopïo

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth argraffu a llungopïo hunan-wasanaeth mewn lleoliadau ar draws pob campws – mae rhai ohonynt yn wasanaethau 24 awr. Mae’r gwasanaeth yn darparu argraffu du a gwyn a chopïo ar ddwy ochr papur o faint A4 ac A3. Mewn rhai lleoliadau darperir argraffu lliw.

Mae ein gwasanaeth sydd wedi ei staffio, a gynigir gan ein tîm Cyfryngau a Gwerthiannau yn Llyfrgell Hugh Owen yn darparu gwasanaeth llungopïo ac argraffu cyflym, proffesiynol a chost effeithlon. Gallwn gynhyrchu llungopïo ac argraffu mewn gwahanol fformatau er enghraifft ar gyfer taflenni, cardiau, labeli glud, lluniau a phosteri. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth rhwymo a lamineiddio.