Argraffu a Chopïo Hunan-wasanaeth
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth argraffu-llungopïo cyfunol hunan-wasanaeth ar draws y Brifysgol
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu argraffu a chopïo mewn:
- Du a Gwyn
- Lliw (mewn rhai lleoliadau)
- A4
- A3
- Ystafelloedd 24 awr
Mewn ymateb i adborth oddi wrth ddefnyddwyr sy’n poeni am yr amgylchedd, mae’r system hon yn argraffu ar ddwy ochr y ddalen yn awtomatig (dwplecs)
Y peiriannau argraffu-llungopïo
- Mae pob un o’r peiriannau yn medru argraffu a chopïo
- Bydd angen eich cerdyn Aber i’w defnyddio
- Gallwch lwytho credyd ar eich cerdyn, er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer argraffu a chopïo
- Gellir prynu credyd gydag arian parod (gyda chyn lleied â 5c) a cherdyn credyd/debyd (rhaid prynu gwerth £5 o leiaf)
- Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth hwn o’ch cyfrifiadur mewn neuadd, swyddfa neu drwy ddefnyddio’r rhwydwaith di-wifr/
- Gweler manylion llawn am leoliad y peiriannau argraffu/copïo yma
Argraffu:
- Anfonir y gwaith sydd i’w argraffu i giw canolog
- Gallwch yna ddefnyddio unrhyw beiriant argraffu/copïo
- Defnyddiwch eich cerdyn Aber i ryddhau eich dogfen
- Golyga hyn os yw’r peiriant agosaf atochmewn defnydd, gallwch fynd â defnyddio un arall.
Am wybodaeth lawn ynglŷn â defnyddio’r gwasanaeth hwn gwelwch eich cwestiynau cyffredin ar argraffu