Newyddion
Cynhadledd fer ar DA cynhyrchiol: Deunyddiau ar gael
06/01/2026
Mae'r deunyddiau o'n cynhadledd fer ym mis Rhagfyr ar DA Cynhyrchiol bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
O 12 Ionawr ymlaen: llif gwaith llyfrnodi newydd yn Aspire ar gyfer staff sy'n defnyddio'r estyniad porwr
06/01/2026
O 12 Ionawr, wrth ddefnyddio’r estyniad porwr i ychwanegu adnoddau llyfrgell at restrau darllen eich modiwlau yn Aspire, fe welwch lif gwaith newydd a gwell sy’n cynnig y canlynol:
- Rhagolwg o’ch llyfrnod cyn ei ychwanegu at y rhestr ddarllen
- Dewis rhwng ffynonellau amgen gyda’r un teitl
- Os bydd angen gwneud newidiadau, mae’r ffurflen Golygu adnodd bellach yn dangos dewisiadau’r ddewislen fel botymau mewn panel cyfochrog
Cewch ganllaw cam wrth gam yn yr erthygl gymorth gan Talis, neu gallwch wylio’r fideo byr.
Mae croeso i chi gysylltu â'ch llyfrgellydd pwnc neu'r Tîm Cysylltiadau Academaidd i ofyn iddynt ddangos sut mae’r broses newydd yn gweithio.
Tîm Ymgysylltu Academaidd y Llyfrgell yn derbyn canmoliaeth gan CILIP Cymru am eu Cwrs Llythrennedd AI.
06/01/2026
Mae Tîm Ymgysylltu Academaidd Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn clod yng Ngwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru 2025 am ddylunio a chyflwyno Cwrs Llythrennedd DA dwyieithog cwbl hygyrch a chynhwysol https://rise.articulate.com/share/uXQfvQf-7Z01ynCVGnJoL94obU328Klq // Cy: https://rise.articulate.com/share/4oOrQodS_sRXPaXsYaWEc2MSEXtlIIel
Meddai Simon French a Shân Saunders, oedd yn arwain y prosiect hwn yn Llyfrgell y Brifysgol: "Mae'r Cwrs Llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial yn ymateb dwyieithog, ymarferol, prifysgol-gyfan i un o'r materion mwyaf dybryd ym maes addysg uwch heddiw. Gobeithiwn fod y myfyrwyr a’r staff yn cydnabod y cwrs fel adnodd hanfodol a'i fod yn dangos sut y gall llyfrgellwyr arwain y ffordd o ran helpu myfyrwyr i lywio cyfleoedd a risgiau Deallusrwydd Artiffisial."
Esboniodd Simon French “Ein nod ar gyfer y cwrs oedd darparu adnodd cydlynol a hygyrch sy'n ateb anghenion ein myfyrwyr yn uniongyrchol. Cynlluniwyd y cwrs fel bod modd i fyfyrwyr ddilyn y modiwlau mewn ffordd aflinol sy’n caniatáu iddynt fanteisio ar adnoddau yn ôl yr angen. Mae'r cynnwys yn seiliedig ar ymarfer academaidd yn y byd go iawn, gydag enghreifftiau'n deillio o dasgau ac aseiniadau nodweddiadol myfyrwyr.”
Mae Shân Saunders yn edrych tua'r dyfodol, “Dydy Deallusrwydd Artiffisial ddim yn sefyll yn llonydd, a dydyn ninnau ddim chwaith. Wrth i dechnoleg esblygu, mae'n rhaid i'r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr esblygu hefyd. Fe wnaethom ni gynllunio'r cwrs mewn ffordd fodiwlaidd yn fwriadol fel ei fod yn hawdd i'w addasu ac yn gynaliadwy. Mae dau ychwanegiad newydd yn cael eu datblygu i'r cwrs: un yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial a hygyrchedd, yn archwilio sut y gall y dechnoleg gefnogi dull cynhwysol o ddysgu; ac un arall ar ddeallusrwydd artiffisial a chyflogadwyedd, fydd yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae deallusrwydd artiffisial yn ail-siapio'r gweithle a sut y gellir ei ddefnyddio i wella eu rhagolygon gyrfa. Bydd y modiwlau newydd yma yn sicrhau bod y cwrs yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion myfyrwyr ac yn ymgysylltu â'r sgyrsiau ehangach sy'n siapio addysg uwch a'r farchnad swyddi .”
Mae'r Wobr, a noddir gan Lywodraeth Cymru a CILIP Cymru, yn dathlu cyflawniadau timau sy'n gweithio yn y gwasanaethau Llyfrgell/Gwybodaeth yng Nghymru. Mwy o wybodaeth ar gael ar wefan CILIP Cymru
Mwy o wybodaeth am Gwrs Llythrennedd DA y Llyfrgell
Nid yw Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn mynd i unman. Gallai ei dwf cyflym a'i ddylanwad cynyddol ei wneud yn Google ein cenhedlaeth. Cafodd ei dderbyn yn fuan iawn gan y myfyrwyr. Os cerddwch trwy'r llyfrgell fe welwch sut maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg i ddysgu, ymchwilio ac ysgrifennu. Ond daw'r dechnoleg hon hefyd â heriau newydd o ran uniondeb academaidd, meddwl beirniadol, a llythrennedd digidol. Er mwyn paratoi'r myfyrwyr ar gyfer y byd newydd hwn o ddeallusrwydd artiffisial, mae tîm Ymgysylltu Academaidd Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth wedi cynllunio a chyflwyno Cwrs Llythrennedd DA dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) cwbl hygyrch a chynhwysol. Mae'n cynnwys cyfres o fodiwlau byr, diddorol ac ymarferol gyda'r nod o helpu myfyrwyr i ddatblygu hyder mewn DA a'i ddeall a'i defnyddio'n gyfrifol.
Mae'r cynllun yn adlewyrchu profiad llyfrgellwyr mai modiwlau byr â ffocws pendant yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ennyn diddordeb myfyrwyr, yn enwedig wrth fynd i'r afael â phwnc cymhleth sy'n symud yn gyflym fel DA. Mae pob modiwl yn cyflwyno maes allweddol (o ddeallusrwydd artiffisial a meddwl beirniadol i ddyfynnu a chyfeirio, i foeseg defnyddio deallusrwydd artiffisial) gan roi'r theori yn ogystal â'r sgiliau ymarferol i fyfyrwyr gael eu defnyddio’n uniongyrchol yn eu hastudiaethau.
Er mwyn atgyfnerthu'r ddysg, caiff y myfyrwyr brofi eu gwybodaeth trwy gwisiau byr ar ddiwedd pob modiwl. Mae'r modiwl olaf yn gwis crynodol hirach. Ar ôl cwblhau'r modiwl cwis yn llwyddiannus, mae’r myfyrwyr yn derbyn bathodyn sy'n dangos eu bod wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus. Mae'r cwisiau'n defnyddio amrywiaeth o wahanol fathau o gwestiynau, gan gynnwys dewis lluosog, atebion lluosog, a phroblemau sy'n seiliedig ar senarios, sydd wedi'u cynllunio i herio camdybiaethau ynghylch deallusrwydd artiffisial ac annog ymgysylltiad dyfnach â'r pwnc.
Mae'r prosiect wedi arwain at gydweithrediadau newydd ar draws y brifysgol. Gweithiodd aelodau'r tîm Ymgysylltu Academaidd yn agos â'r Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu adrannol, a staff sy'n gweithio ar faterion uniondeb academaidd i sicrhau bod y cwrs yn adlewyrchu gwerthoedd sefydliadol a disgwyliadau disgyblaethol.
Newid i'r system archebu ystafell astudio yn Llyfrgell Hugh Owen
13/11/2025
Mae newid ar y gweill i’r system archebu ystafelloedd astudio yn Llyfrgell Hugh Owen. Bydd defnyddwyr brwd eisoes wedi sylwi bod yr hen sgriniau archebu / joan boards wedi mynd.
Byddwn yn darparu manylion am y ffordd newydd, gyfleus ichi reoli’ch archebion cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, cewch wirio pa ystafelloedd sydd ar gael, ac archebu yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/2607
Llyfrgell, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2020 Ebost: llyfrgell@aber.ac.uk
